tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Tudalen Ymaelodi

Mae croeso i bawb ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith. Gelli di naill ai dalu yn flynyddol i ymaelodi â'r Gymdeithas trwy lenwi'r ffurflen arlein yma, neu gelli di dalu aelodaeth trwy Archeb Banc.

Ymuno â Chymdeithas Yr Iaith Gymraeg?

Beth wyt ti yn ei wneud? :

 

Os oes yn well gen ti i ymaelodi drwy'r post, gelli di argraffu'r ffurflen aelodaeth (pdf) yma

Er mwyn sicrhau bod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn rhai llwyddiannus ac effeithiol, mae angen i gymaint o bobl ag sy'n bosib gyfrannu at y gwaith. Wrth gwrs, mae sawl gwahanol ffordd o wneud hyn. Gellir helpu gyda threfniadau rhai o'r prif ymgyrchoed, cyfrannu at waith rhanbarthau neu gelloedd lleol, trefnu digwyddiadau codi arian neu nosweithiau adloniant neu gynorthwyo gyda thasgiau gweinyddol megis cyfieithu, teipio neu bostio. Mae pob cyfraniad yn bwysig ac yn helpu'r mudiad i gyrraedd y nod!

Os wyt ti'n meddwl y gelli di gyfrannu mewn unrhyw fodd, noda hynny ar dy ffurflen aelodaeth. Gelli di ddarllen y nodiadau isod er mwyn gweld crynodeb o'r gwhanol bethau y gellir eu gwneud i helpu.

Cyfrannu at

  • Gwaith Ymgyrchoedd Canolog -
    • Deddf Iaith Newydd
    • Cymunedau Rhydd
    • Darlledu
    • Addysg
    • Gwreiddiwch yn y Gymuned
  • Adloniant
  • Codi Arian
  • Helpu gyda threfniadau lleol
  • Gwaith gweinyddol - cyfieithu, teipio, golygu
  • Gweithredu

Ymaelodi trwy Archeb Banc

Archebion Banc yw'r unig incwm cyson sydd gan Gymdeithas yr Iaith. Dim ond ar sail cyfraniadau sefydlog o'r fath y gallwn gynllunio yn effeithiol ar gyfer y dyfodol chyflogi staff i weithio'n llawn amser.

Beth am lenwi archeb banc i'r Gymdeithas.

£2 y mis - pris peint
£5 y mis - pris 2 beint
£10 y mis - pris cryno ddisg

Gellir sefydlu archeb banc ar-lein, os wyt ti wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth arlein gyda dy fanc. Mae HSBC, Natwest a'r Co-op yn cynnig y gwasanaeth yma, ac mae'n debygol iawn bod gweddill y banciau yn cynnig yr un gwasanaeth hefyd. Bydd angen i ti gysylltu gyda dy gyfrif arlein trwy'r dull arferol, a wedyn mynd i'r adran Archebion banc (Standing Orders). Os wyt ti'n defnyddio'r dull yma, cofia hefyd i ddanfon dy fanylion personol atom mewn fel bod modd i ni dy gofrestru fel aelod. Gelli di weld y manylion sydd angen arnom trwy bwyso yma. Noda yn yr ebost dy fod wedi sefydlu archeb banc arlein.

Dyma'r manylion y bydd angen arnat:

Enw y cyfrif: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Côd trefnu: 40-16-02
Rhif y Cyfrif: 81072102

Os nag wyt ti wedi cofrestru am wasanaeth arlein gyda dy fanc, pwysa yma i lawrlwytho copi pdf o'r ffurflen aelodaeth - a gwna'n siwr dy fod yn llenwi'r adran Archebion Banc. Gelli di wedyn ei argraffu a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas. Cofia taw hwn yw unig incwm sefydlog y Gymdeithas ac felly byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr os gelli di argraffu'r ffurflen a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas.

Newyddion
"Tinsel ar y Goeden... LCO iaith ar y ffordd?" Fideo Nadolig y Gymdeithas
18 Rhagfyr, 2008
Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth
10 Rhagfyr, 2008
Ymateb i Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig
27 Tachwedd, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Parti 'Dolig Carafan: Mattoidz, Adrift, Lodofois: 3 Eog, Caerfyrddin
29 Rhagfyr, 2008
Rali Calan Hen, Caryl Parry Jones, Pibydd Cymreig, Y Fari Lwyd + mwy! CAERDYDD
10 Ionawr, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig