Cymraeg yn hanfodol
Gofynion newydd Cymdeithas yr Iaith mewn cymunedau Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio cyfnod newydd o bwyso ar gyrff
cyhoeddus yn ein cymunedau Cymraeg. Galwir arnynt i gymryd camau
penodol er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn rhan hanfodol
o’u holl waith. Yn y pendraw, golyga hyn eu bod yn troi i fod yn
gyrff sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfieithu i'r
Saesneg yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau na chaiff trigolion
di-Gymraeg eu hamddifadu o wasanaethau.
Dwyieithrwydd Cymraeg
Mae'r Proclamasiwn yn galw'r nod hwn yn ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’.
Golyga hyn wyrdroi'r drefn bresennol o ddwyieithrwydd Saesneg, lle bo
cyrff fel Cynghorau Sir, Asiantaethau Cyhoeddus a Cholegau Addysg yn
cyflawni bron y cyfan o'u gwaith yn Saesneg gan ddibynnu ar gyfieithu
er mwyn cyflwyno delwedd ddwyieithog i’r cyhoedd. O dan y drefn
newydd o gyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg, cofnodid cost cyfieithu fel
gwariant ar y Saesneg.
Pa Ardaloedd?
Trwy lansio’r proclamasiwn ‘Cymraeg yn Hanfodol’ nid yw Cymdeithas yr
Iaith yn ceisio dynodi un ‘Fro Gymraeg’ benodedig. Yn hytrach,
amlinellir trefn ieithyddol newydd ar gyfer gweinyddiaeth gyhoeddus
yng Nghymru. Mae’r nod o ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’ yn un y gall pob
corff anelu tuag ato.
Serch hynny, o ganlyniad i wahaniaethau rhwng ardaloedd, mae’n
anochel y bydd rhai cyrff yn symud yn gynt na’i gilydd. Ar hyn o
bryd, disgwyliwn i’r cyrff cyhoeddus hynny sydd yn gwasanaethau
llawer o'n cymunedau Cymreiciaf, i ddechrau gweithredu polisi o'r
fath yn syth - er mwyn gwneud y Gymraeg yn hanfodol i fywyd cyhoeddus
ynddynt. Gall fod amser maith iawn cyn bod cymunedau eraill yn barod
i ddilyn yr un llwybr.
Lansiad
Cafodd y cyfnod newydd hwn o bwyso ar gyrff cyhoeddus ei lansio trwy
osod y proclamasiwn 'Cymraeg yn hanfodol' ar dri adeilad cyhoeddus
mewn tri gwahanol rhan o Gymru:
Caerfyrddin - ar bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin. Yn ôl eu polisi
iaith, dywed y Cyngor eu bod yn ceisio ‘cynyddu cyfleon gwneud
defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle’. Mewn geiriau eraill, Saesneg yw
iaith y weinyddiaeth, ond caniateir y Gymraeg rhwng oedolion
cydsynus. Byddwn yn galw ar gynghorau sir fel Caerfyrddin am bolisi
sydd yn symud at weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bangor – wrth fynedfa Ysbyty Gwynedd ym Mhenrhosgarnedd. Mae llawer o
asiantaethau cyhoeddus nad sy'n atebol i etholwyr wedi cymryd drosodd
gwasanaethau. Disgwyliwn i'r rhain symud yn awr tuag at weithio trwy
gyfrwng y Gymraeg gan gyfieithu ond yn ôl yr angen.
Aberystwyth - ar swyddfa Coleg Ceredigion. Yn lle ceisio ‘cynyddu
nifer y cyrsiau unigol Cymraeg’, disgwyliwn i Golegau Addysg yn ein
cymunedau Cymraeg, i symud tuag at bolisi syml o wneud y Gymraeg yn
hanfodol i bob cwrs. Hynny yw, ni bydd myfyriwr yn derbyn cymhwyster
heb arddangos ei allu i gyflawni ei waith yn Gymraeg. Mae’r colegau
hyn yn darparu gweithwyr ar gyfer llu o wasanaethau cyhoeddus, ac
felly mae eu swyddogaeth yn un allweddol
Pwyswch
yma i lawrlwytho copi o'r Proclamasiwn (pdf - 52kb)
Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddogfen gefndir (pdf - 80kb)
|