|
|
|
Deddf Eiddo i Gymru!
Pwysa yma i ddarllen 'Y Llawlyfr Deddf Eiddo: Drafft Ymgynghorol' a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2005
Mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar sefydlu dyfodol i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru. Golyga hyn bod polisiau teg ym maes tai a chynllunio yn gwbwl hanfodol.
Mae angen sicrhau bod gan bobl y gallu i brynu neu rentu tŷ yn eu cymunedau. Yn ogystal, mae'n hollbwysig nad yw'r awdurdodau yn rhoi caniatâd i ddatblygiadau tai a all niweidio'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd naturiol.
Caiff polisiau Cymdeithas yr Iaith yn y maes yma eu crynhoi o dan faner Deddf Eiddo. Dyma bolisi cynhwysfawr sydd yn ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng tai, boed hynny’n brisiau afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau tai niweidiol.
Ar ddechrau 2004, cychwynodd Cymdeithas yr Iaith ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru.
Methiant Llywodraeth y Cynulliad
Bu llawer o son yn ddiweddar ynglyn â'r problemau tai difrifol sydd yn peryglu dyfodol ein cymunedau ar iaith Gymraeg. Gwelwyd bod:
-
prisiau tai yn codi ymhell allan o gyrraedd pobl leol
-
bod datblygiadau o dai ddim yn adlewyrchu'r angen lleol
-
bod diffyg difrifol o dai ar rent i drigolion lleol
Eto i gyd, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn amharod iawn, i gymryd hyd yn oed y camau mwyaf cyfung, er mwyn lleddfu effeithiau’r argyfwng tai. Gwrthodwyd cyfres o gamau posib, gan gynnwys galwadau penodol Cymdeithas yr Iaith.
Yn y cyfamser mae effeithiau'r argyfwng tai yn parhau i frathu, gan danseilio cymunedau ledled Cymru, ynghŷd â rhagolygon yr iaith Gymraeg. O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan bod yn rhaid bellach ymgyrchu am newidiadau sylfaenol, gan gynnwys ymyrraeth yn y farchnad dai. Gellid cyflawni hyn trwy gyfrwng Deddf Eiddo – pecyn o fesurau sydd yn ymdrin â phob agwedd o'r argyfwng tai, boed hynny'n brisiau tai afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau tai niweidiol.
Y Cefndir
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith ym maes tai, yn canolbwyntio ar dynnu sylw at gyfres o gamau brys y gallai Llywodraeth y Cynulliad eu cymeryd er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng tai. Yn sicr ni fyddai'r camau hyn wedi mynd at wraidd y broblem, gan ddatrus popeth, ond fe fyddent wedi bod yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Galwyd ar y Llywodraeth i ddarparu cynnydd sylweddol yn ei gyllideb tai ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn darparu:
-
mwy o gyllid ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu
-
gwell darpariaeth o dai ar rent
Fel rhan o'r ymgyrch, casglwyd cefnogaeth dros 130 o Gynghorau Cymuned o bob rhan o Gymru.
Pwysa yma er mwyn gweld pa Gynghorau Cymuned a gefnogodd yr ymgyrch.
Ar ben hynny cynhaliwyd cyfarfodydd gyda llu o Aelodau Cynulliad gan gynnwys y Gweinidog Perthnasol - Edwina Hart. Yn y cyfarfod hwnnw, nododd mai tai fforddadwy fyddai un o'i blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Er gwaethaf hyn, nid oedd cyllideb ddiwethaf Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ariannol ychwanegol ar gyfer mynd i'r afael a'r argyfwng tai. Yn wir, mae Cyllideb tai y Cynulliad bellach yn llawer is nag ydoedd yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig! Ar ben hynny, roedd y ffaith fod cyllideb ddiwethaf y Llywodraeth yn amlinellu ei gynlluniau gwariant am y dair mlynedd nesaf yn cau'r drws am rai blynyddoedd.
Deddf Eiddo – Rheoli'r Farchnad dai
Gwraidd yr argyfwng tai yw natur gystadleuol y farchnad dai, sy'n golygu bod pobl leol yn methu cael gafael ar dai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Cred Cymdeithas yr Iaith yw bod mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn galw am elfen reolaeth dros y farchnad dai – er enghraifft trwy gyfrwng Deddf Eiddo. Trwy wrthod ystyried y camau brys a gynigiwyd iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, dangosodd Llywodraeth y Cynulliad nad oes budd mawr mewn ymgyrchu dros newidiadau cyfung, llawer gwell bellach yw i ymgyrchu dros becyn cyflawn o newidiadau – Deddf Eiddo!
O ganlyniad, bu aelodau o'r Gymdeithas wrthi, ers rai misoedd, yn ail-edrych ar bolisi Deddf Eiddo'r mudiad, gan roi ystyriaeth i ddatblygiadau diweddar yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain ac Ewrop.
Bydd Deddf Eiddo yn datrus yr argyfwng tai...
drwy roi'r hawl i bawb gael cartref ar rent teg yn eu cymuned, drwy roi'r cyfle cyntaf i bobl leol wrth werthu eiddo, a thrwy ddod a'r farchnad leol yn raddol yn ôl o fewn cyrraedd pobl leol, fel na fydd perchnogion presennol ar eu colled. Bydd hyn yn galluogi pobl leol i brynu neu rentu ffermydd a busnesau bach yn ogystal â thai.
Bydd Deddf Eiddo yn diogelu cymunedau Cymru a'r Gymraeg...
drwy alluogi pobl leol i gael y tai sy'n bod eisioes a'u hadnewyddu a'u haddasu os bydd angen, peidio â chaniatau codi tai newydd oni bai fod angen lleol a dim tai addas yno'n barod, a pheidio â chaniatau cynlluniau niweidiol – gan gynnwys rheini sydd wedi'u pasio'n barod.
Bydd Deddf Eiddo yn diogelu'r amgylchedd...
trwy reoli pethau fel glo brig, chwareli a datblygiadau twristiaeth mawr yn ogystal â thai diangen, ac felly'n gam pwysig iawn tuag at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.
Mae Deddf Eiddo yn gwbwl ymarferol...
-
dyw hi ddim yn galw am newid y sustem economaidd – dim ond cael mesur o reolaeth ar un rhan o'r economi, fel sydd wedi digwydd ers blynyddoedd mewn llefydd megis Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.
-
mae pob rhan o'r Ddeddf Eiddo â chynsail yng nghyfraith neu bolisiau tai a chynllunio Prydain.
-
bydd perchnogion tai ddim ar eu colled, gan na fydd rhai i neb werthu am bris is na'i fuddsoddiad neu'i forgais. Fydd prisiau tai ddim yn disgyn yn is na phris y farchnad, ond yn aros yn sefydlog wrth i incwm lleol ddal i fynu, ac felly'n raddol fe ddaw mwy a mwy o bobl leol i allu fforddio prynu unwaith eto.
Mae Deddf Eiddo yn berthnasol i bob rhan o Gymru...
dim ond trwy Ddeddf Eiddo y bydd modd amddiffyn ein cymunedau rhag cael eu hecsbloetio gan y drefn gynllunio, a sicrhau hawl bobl leol i gael cartrefi yn lleol.
Beth yw Deddf Eiddo?
Seilir deddf Eiddo ar y nôd drifflig o:
- sicrhau bod anghenion tai pobl Cymru yn cael eu diwallu
- ddiogelu a sicrhau cynaladwyedd cymunedau lleol a'r iaith Gymraeg
- ddiogelu'r amgylchedd
Ymhellach, caiff y polisi ei seilio ar egwyddorion penodol, sef:
- y dylid ystyried tai ac eiddo fel angen yn hytrach na nwydd masnachol
- y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i'r stoc bresennol o dai ac eiddo
- y dylai prisiau tai ac eiddo adlewyrchu'r farchnad leol
Er mwyn cyflawni'r amcanion uchod, nodir chwech o bwyntiau y dylid eu cynnwys:
-
Asesu'r Angen Lleol
Ar hyn o bryd mae caniatâd yn cael ei roi yn ddiamod i godi miloedd o dai heb wneud unrhyw ymchwil i weld os oes angen y tai o gwbwl. Yn aml mae pentrefi bychan yn gallu dyblu mewn maint, neu fe godir rhagor o dai mewn ardal ble mae dros hanner y tai yn dai haf – pam? Dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud ymchwil manwl a pharhaol i'r angen leol am gartrefi ac eiddo ym mhob cymuned. Yna dylid llunio strategaeth i ddiwallu'r anghenion hynny oddi fewn i'r stoc bresennol o dai ac eiddo, oni bai fod honno yn annigonol neu'n anaddas.
-
Tai ac Eiddo i'w Rhentu
I bobl sy'n chwilio am eu cartref cyntaf neu sydd ar incwm is mae tai ar rent yn allweddol bwysig. Mae tai cyngor wedi cael eu gwerthu bellach ers blynyddoedd, gan amddifadu pobl yn y trefi a'r dinasoedd yn ogystal a chefn gwlad o'r gallu i gael cartref yn eu cymuned eu hunain. Dylid rhoi'r hawl i bobl leol gael cartrefi, neu fferm neu eiddo busnes ar rent rhesymol ac mewn cyflwr boddhaol. Ymhellach dylid rhoi dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i sicrhau'r ddarpariaeth hon, a hynny o'r stoc bresennol oni bai ei fod yn anaddas.
-
Cymorth i Brynwyr Tro Cyntaf
Dylai pob person lleol sydd yn dymuno prynu cartref am y tro cyntaf gael cymorth i wneud hynny. Gan fod prisiau tai y tu hwnt i'r rhan fwyaf o brynwyr tro-cyntaf lleol ar hyn o bryd, ac am y bydd y sefyllfa hon yn parhau am beth amser ar ol i Ddeddf Eiddo ddod i rym, mae'n hanfodol i sicrhau cymorth i brynwyr tro cyntaf gael mynediad i'r farchnad.
-
Blaenoriaeth i Bobl Leol
Dylid rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai, gan sicrhau bod tai ac eiddo yn cael eu cynnig i bobl sydd yn byw yn y gymuned cyn mynd allan ar y farchnad agored. Nid Cymru yw'r unig wlad sy'n poeni am hyn. Mae Cernyw ac ardal y Llynoedd a llawer o ardaloedd eraill sy'n denu mewnfudwyr yn dioddef. Mae modd rhoi'r cyfle cyntaf i brynu cartref i'r bobl sy'n dod o'r ardal. Nid yw hyn yn golygu chwalu'r farchnad rydd!
-
Cynllunio i'r Gymuned
Dylai'r drefn gynllunio wasanaethu buddianau ac anghenion y gymuned leol - yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ieithyddol. Dylai tai newydd ddiwallu anghenion lleol na ellir eu diwallu o'r stoc dai bresennol, ac ni ddylid rhoi caniatad i gynlluniau a fyddai'n niweidiol i'r gymuned, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.
-
Ailasesu Caniatad Cynllunio
Mae yna ganiatâd cynllunio eisioes wedi ei roi ar gyfer miloedd ar filoedd o dai yng Nghymru. Mae Morfa Bychan, Aber Dyfi a llawer o gymunedau tebyg â chaniatâd am gannoedd o dai ers deng mlynedd a rhagor. Os nad yw tŷ wedi ei godi o fewn blwyddyn i gael caniatâd yna doedd dim angen y tŷ yn y lle cyntaf. Dylid ail edrych ar bob un o'r miloedd o dai sydd wedi derbyn caniatâd a gofyn yn syml – 'a oes angen y tŷ yma?' Dylid sicrhau na fydd caniatad cynllunio a roddwyd yn y gorffennol yn ychwanegu'n ddiangen at y stoc dai, nac yn bygwth cymunedau, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.
Ymuna yn yr Ymgyrch
Er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch, darganfod beth yw'r camau nesaf, neu ymaelodi a’r grwp Deddf Eiddo, cysyllta â Huw Lewis (Cadeirydd Grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd).
|
 |
|