tafod.jpg hafan cymdeithas.com Nwyddau Newydd
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Mudiadau Dathlu'r Gymraeg

Creu mudiad newydd i ddathlu’r Gymraeg a galw am ddeddfwriaeth

mudiadau-dathlur-gymraeg.jpg

Ar ddechrau haf 2007 sefydlwyd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg sy’n cynnwys 13 sefydliad a chymdeithas yng Nghymru. Eu nod yw dwyn pwysau ar lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau cyfres o fesurau iaith cryfion ym maes y Gymraeg. Fel ran o ymgyrch y mudiadau, fe fydd pob corff yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau i hyrwyddo’r angen am statws swyddogol i’r iaith Gymraeg a’r angen i sicrhau hawliau pobl Cymru i’r Gymraeg. Eu bwriad yw dathlu’r hyn sydd wedi ei wneud dros y Gymraeg yn barod ynghyd a gwthio am ragor o ddefwriaeth i ddiogelu’r iaith a sicrhau ei ffyniant.

Y 13 mudiad sydd wedi ymrwymo i brif egwyddorion Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yw UCAC, Urdd Gobaith Cymru, Cymuned, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Alawon Gwerin, UMCB, UMCA, RHAG, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Mudiad Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru a chanddynt dros 50,000 o aelodau yng Nghymru gyda’i gilydd.

Meddai Catrin Dafydd, sy’n gweithredu fel trefnydd ar ran y Mudiadau:

“Ein nod yw cynnal trafodaeth gyda llywodraeth y Cynulliad a chynnal trafodaeth gyda phobl Cymru. Gyda phwerau ychwanegol yn dod i’r Cynulliad mae dechrau cyfnod newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru, a chred yr holl gyrff sydd ynghlwm a’r mudiad newydd fod angen sicrhau mai’r Gymraeg fydd un o’r meysydd deddfu pwysicaf.”

“Ynghlwm wrth ein galwadau mae’r angen i ystyried y Gymraeg fel ran annatod o bob agwedd ar fywyd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un o’r meysydd hyn ac mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn galw ar i’r Cynulliad ystyried deddfu mewn modd holl gynhwysol a phellgyrhaeddol.”

Prif alwadau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yw:

1.) Camau cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau, gan gynnwys:

2.) Statws Swyddogol i’r Iaith Gymraeg.

3.) Hawliau statudol i bawb o bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.

4) Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

 5.) Sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.

Am ragor o fanylion cysylltwch a Catrin Dafydd ar gwybodaethmdg@gmail.com

Deunydd Ymgyrchu


Digwyddiadau'r Ymgyrch
Rhagor...

Newyddion o'r Ymgyrch
Mwy o newyddion...

Dogfennau Perthnasol
Rhagor...

Erthyglau Perthnasol
Rhagor...

Pethau ar y We


Archif yr Ymgyrch
Pob cofnod am yr ymgyrch hwn


nôl i'r brig