tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyfrannwch

Mudiad gwirfoddol yw Cymdeithas yr Iaith. Yn wahanol i nifer o gyrff neu sefydliadau eraill, nid yw'r mudiad yn derbyn unrhyw grant neu gymorth ariannol. Yn hytrach, mae'n dibynnu yn llwyr ar haelioni aelodau a chefnogwyr. O Ganlyniad chi yw grant Cymdeithas yr Iaith!

Does dim amheuaeth fod angen ymgyrchu mewn sawl maes er mwyn sicrhau dyfodol sicr i'r Gymraeg a'n cymunedau. Wrth gwrs mae hyn yn waith costus. Ystyrier y costau sylweddol sydd yn gysylltiedig gyda'r gwaith o drefnu'r cyfarfodydd, y raliau a'r cynadleddau cyson sydd yn anghenrheidiol os ydym am i'n galwadau dderbyn sylw difrifol.

Felly, beth am gyfrannu at waith Cymdeithas yr Iaith? Defnyddia'r ffurflen yma i wneud cyfraniad arlein.

Faint wyt ti am ei gyfrannu?

Swm penodol:

Neu swm arall:

Archebion Banc

Archebion Banc yw'r unig incwm cyson sydd gan Gymdeithas yr Iaith. Dim ond ar sail cyfraniadau sefydlog o'r fath y gallwn gynllunio yn effeithiol ar gyfer y dyfodol a chyflogi staff i weithio'n llawn amser.

Beth am lenwi archeb banc i'r Gymdeithas?

£5 y mis - pris 2 beint
£10 y mis - pris cryno ddisg

Gellir sefydlu archeb banc ar-lein os wyt ti wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth arlein gyda dy fanc. Mae HSBC, Natwest a'r Co-op yn cynnig y gwasanaeth yma, ac mae'n debygol iawn bod gweddill y banciau yn cynnig yr un gwasanaeth hefyd. Bydd angen i ti gysylltu gyda dy gyfrif arlein trwy'r dull arferol, a wedyn mynd i'r adran Archebion banc (Standing Orders). Dyma'r manylion y bydd angen arnat:

Enw y cyfrif: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Côd trefnu: 40-16-02
Rhif y Cyfrif: 81072102

Os nag wyt ti wedi cofrestru am wasanaeth arlein gyda dy fanc, pwysa yma i ddadlwytho'r archeb banc. Gelli di wedyn ei argraffu a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas. Cofia taw hwn yw unig incwm sefydlog y Gymdeithas ac felly byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr os gelli di argraffu'r ffurflen a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas.

Newyddion
"Gwrthodwch Blacmel y Cyngor Sir" - Apel i Lywodraethwyr Ysgol
19 Tachwedd, 2008
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig