Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.
Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg. Cofiwch brynu y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau a'u darllen.
1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.
Mynd â’r alwad dros ‘Hawl i Rentu’ at Uned Llywodraeth y Cynulliad lle’r codir Ty Unos.
Mae’n ffasiynol iawn i’r holl bleidiau gwleidyddol son am “dai fforddiadwy” y dyddiau hyn. Mae datblygwyr yn cael caniatad i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai “fforddiadwy” yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai “fforddiadwy”.
Un ateb tuag at sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Symud tuag at sefydlu “Hawl i Rentu” i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o “Hawl i Brynu”. Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch!
• Oherwydd anhawster cael morgais, dyma unig gyfle llawer i gael cartre yn eu cymuned
• Mae prisiau tai’n disgyn, felly mae’n fwy ymarferol i Gynghorau brynu tai ar werth a’u rhentu i bobl leol.
• Rhaid fod y tai ar rent yn y mannau iawn yn ein cymunedau – nid mewn stadau canolog yn unig.
• Rhaid fod y tai o’r mathau sy eisiau – yn cynnwys unedau ar gyfer pobl ifainc.
• Rhaid wrth system deg i osod tai i bobl leol
• Gall trefniadau rhan-berchnogaeth fod yn rhan o’r cynllun “Hawl i Rentu”
Nid dyma’r holl ateb i broblem sicrhau cartrefi yn ein cymunedau, ond bydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau ac ar gyfer pobl ifainc sy’n ceisio penderfynu a oes dyfodol iddynt yn eu cymunedau.
Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch – dewch i weld yr arddangosfa yn uned y Gymdeithas ar faes y Steddfod, a dewch i orymdeithio gyda ni i fynd a’r alwad at Lywodraeth y Cynulliad!
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Gweithdy Cymunedau Rhydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrch Hawl i Rentu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio yn yr eisteddfod. Bydd yn ymgyrch weithredol er mwyn sicrhau bod un cyfran o’n polisiau ni i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg yn cael ei weithredu. Mae’n gofyn am weithgarwch gan aelodau o bob ardal o Gymru, felly dewch draw i’r uned i glywed am y cynlluniau, i drafod ac i ddysgu am ein polisiau.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
1pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl cyhoeddiad am fanylion Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg. Dyma'r cyfle gorau posib am ddegawd arall a mwy i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn derbyn yr hawl i weld, clywed a defnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Mae'r cwmnïau amlwladol sydd yn gwneud biliynau o bunnoedd o elw o gymunedau Cymru yn gwbwl anystyriol o'r iaith Gymraeg ac yn gwbwl amharchus o hawlia eu cwsmeriaid. Mae profiad y ddegawd ddiwethaf wedi dangos yn glir na ellid sicrhau hawliau ym maes y Gymraeg heb orfodaeth trwy ddeddfwriaeth - dyma'r cyfle i sicrhau hyn unwaith ac am byth. Rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth sicrhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, sefydlu Comisiynydd Iaith gref ac annibynnol, a sefydlu hawliau i bawb o bobl Cymru.
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Gweithdy Deddf Iaith Newydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith ar fater deddf iaith newydd yn gofyn am amrywiaeth o ddulliau ymgyrchu a lobio. Mae’r ymgyrch weithredol i drawsnewid cwmnïau uniaith Saesneg y sector breifat drwy sticeri, picedi a gweithredu uniongyrchol yn ei anterth. Ar yr un pryd, rydym ni’n cynnal cyfarfodydd lobio rheolaidd gyda’r llywodraeth i geisio sicrhau bod unrhyw ddeddf iaith newydd yn un gwerth ei chael. Er mwyn ymuno a’r ymgyrch neu i drafod dulliau o weithredu, dewch draw i’r uned!
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.
3pm, Dydd Mercher, 6ed o Awst
Cyfarfod Cyhoeddus: Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!
Pabell y Cymdeithasau
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Menna Machreth, Einir Young, Ieuan Wyn
Cyfle i bawb roi tystiolaeth dros Goleg Ffederal Cymraeg. Gwahoddir y rhai fydd yn cymryd y penderfyniadau i ddod i wrando arnoch chi.
Addawodd y Llywodraeth Glymblaid yn nogfen “Cymru’n Un” sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Cafodd y flwyddyn gyntaf ei gwastraffu. Nawr bydd y Llywodraeth yn sefydlu “Grwp Llywio Coleg Cymraeg” ac yn cynnal “Cynhadledd i Ran-ddeiliaid” i lunio’r ffordd orau ymlaen. Mae’n sicr mai’r Sefydliadau Addysgol – sydd mor geidwadol ac yn gwrthwynebu newidiadau wrth reddf – fydd y rhan fwyaf o’r rhan-ddeiliaid hyn. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu:
• Fod angen cyflymu’r broses rhag colli’r cyfle hanesyddol trwy fod y sefydliadau addysg uwch yn ceisio gohirio symudiadau.
• Fod angen cytundeb yn syth ar yr egwyddorion gwaelodol – sef bod angen statws annibynnol, siarter, llif arian annibynnol a chofrestr myfyrwyr ar y coleg.
• Ein bod i gyd yn rhan-ddeiliaid yn y ddelfryd o Goleg Cymraeg. Felly, yn y sesiwn hon fe fyddwn yn taflu drysau eu cynhadledd nhw yn agored i bobl Cymru. Gwahoddwn Aelodau a swyddogion perthnasol y Cynulliad i fod yn bresennol i glywed eich tystiolaeth a sicrhawn fod eich barn – yn y sesiwn hon a datganiadau wedyn – yn cael ei chyfleu mewn modd grymus i’r “gynhadledd” a drefnir gan y Llywodraeth.
MAE HWN YN BWNC RHY BWYSIG I’W ADAEL I’R SEFYDLIAD!
Ac i ddilyn...
4.15pm, Dydd Mercher, 6ed o Awst
Gweithdy Coleg Ffederal ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Yn ddiweddar mae lobio gan aelodau o grwp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod cynlluniau’r llywodraeth nad oedd yn cadw at addewid Cymru’n Un i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg wedi cael eu hailystyried. Dyna ddangos beth allwn ni gyflawni yn y maes yma, maes sydd yn hynod berthnasol i bobl Cymru, yn enwedig myfyrwyr a disgyblion ysgol. Er mwyn dysgu mwy am yr ymgyrch acer mwyn trafod yr egwyddorion a’r dulliau ymgyrchu dewch draw i’r uned!
Y lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .
Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror.
Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.
1. Camau cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau, gan gynnwys:
2. Statws Swyddogol i’r Iaith Gymraeg.
3. Hawliau statudol i bawb o bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.
4. Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
5. Sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.
Croeso i chi osod y baneri canlynol ar eich gwefan neu flog:
Mae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.
Piced dros Goleg Ffederal Cymraeg Llawn
"Cadwch at eich gair Plaid a Llafur!"
5pm - 7pm, Dydd Mawrth, Tachwedd 27, 2007
Tu Allan Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd
Ar Dachwedd 27 mi fydd HEW (Higher Education Wales) yn lansio eu strategaeth Addysg Gymraeg. Strategaeth oedd hwn oedd yn bodoli cyn i'r Llywodraeth benderfynnu cefnogi CFfC. Os bydd y llywodraeth yn mabwysiadu cynllun HEW yn ddi-gwestiwn yn lle sefydlu CFfC llawn mi fyddan nhw wedi torri addewid Cymru'n Un. Fe fydd y piced tu allan i'r lansiad yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu cynllun wedi ei seilio ar y ddwy egwyddor yma:
(i) y syniad o gorff statudol newydd er budd datblygu Addysg Gymraeg
(ii) llif arian sylweddol ac annibynnol
Mi fyddw ni yn cyflwyno ein papur manwl ni am GFfC i'r Llywodraeth fel rhan o'r biced.
Digwyddiad a drefnir ar y cyd gan:
UCMC/NUS Wales/UMCA/UMCB/UMCC/Cymdeithas yr Iaith
CYFARFOD CYMDEITHAS YR IAITH
6yh, DYDD SUL 18/11/07
Ty TAWE, ABERTAWE
Gyda'r holl sylw yn y wasg yn ddiweddar ynglyn â pholisïau Cyngor Sir Abertawe yn ymwneud a'r Gymraeg, mae'n gyfle perffaith i ailsefydlu cell Cymdeithas yr Iaith yn y ddinas. Mae'n amlwg fod yna ddigon o waith i'w wneud yn yr ardal, a photensial ar gyfer cell lwyddiannus. Byddwn yn trafod:
1, Arwyddion uniaith Saesneg yn Ynysforgan.
2, 'Canolfan Gyswllt' y Cyngor a'r Llyfrgell ganolog.
3, Addysg
4, Sector Breifat/Gwirfoddol
5, Adloniant
Dere draw i'r cyfarfod er mwyn gwneud gwahaniaeth!
AGORIAD SWYDDFA NEWYDD SBON CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG!
4/10/07, 6yh, Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd.
Noson anffurfiol i ddathlu agoriad swyddfa newydd y Gymdeithas yn y Brifddinas!
Dewch i fusnesa, ymaelodi neu i dderbyn gwybodaeth cyffredinol; am weithgarwch a ymgyrchoedd y Gymdeithas yn eich ardal chi ag yn genedlaeathol a sut allwch chi gefnogi!
Mi fydd cyfle i bawb fydd yn bresennol i adael sylwadau a syniadau (mawr a bach!) a fydd yn cyfrannu tuag at lunio amcanion Rhanbarth Morgannwg Gwent o’r Gymdeithas y flwyddyn nesaf.
DIOD A BWYD AM DDIM!
CROESO CYNNES I BAWB!
Am wybodaeth bellach: sioned.haf@cymdeithas.org / 07790005760
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gresynu at y newyddion fod Cyngor Sir Abertawe am godi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg yn yr ardal gan ddefnyddio iechyd a diogelwch fel esgus dros wneud hynny. Heddiw anfonodd y Gymdeithas y llythyr isod at Brif Weithredwr Cyngor Abertawe yn mynegi ei phryder.
Rhwng 10am a 1pm heddiw, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lawnsio cyfnod newydd yn ei hymgyrch dros ddeddf iaith newydd i’r Gymraeg. Byddant yn dosbarthu llythr â llaw i Swyddfeydd arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad yn datgan eu bod yn argyhoeddiedig y bydd rhyw fath o ddeddf iaith newydd yn cael ei chyflwyno, ond yn galw arnynt i sicrhau y bydd unrhyw ddeddf iaith newydd a fydd yn rhan o gytundeb clymblaid yn un gyflawn a chynhwysfawr.
NOS SUL, IONAWR 21
Cymdeithas yr Iaith yn Cyflwyno:
9BACH
THE GENTLE GOOD
8pm - £5
Clwb Ifor Bach
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno noson o gerddoriaeth werin hafaidd ar Ionawr 21 i ddiddanu selogion Clwb Ifor ar ol gorffen y de-tox blynyddol. Yn cloi’r noson, bydd 9bach sef prosiect yr actores Lisa Jane sy’n gyfuniad o’r gwerin, y roc a cherddoriaeth y blws a bydd 2006 yn flwyddyn brysur iawn i’r ferch o Bethesda pan fydd hi’n cefnogi Gruff Rhys ar ei daith trwy Brydain yn hyrwyddo ei albym newydd.
Yna, fel tamaid i aros pryd, fydd band Gareth Bonello, The Gentle Good yn cyfrannu’r elfen gynnes lladinaidd i roi lliw ar nos Sul ddiflas yng Nghaerdydd. Yn wir, mae’r haf ar ei ffordd, gyfeillion!
Am 2pm heddiw, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rali brotest yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Dechreuodd y brotest tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith, lle cafwyd anerchiad gan Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, cyn i'r dorf orymdeithio draw at uned y Blaid Lafur.
Ar ddydd Mercher yr ail o Awst am 10 y.b, bydd Angharad Elen Blythe o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Caerdydd. Hi fydd yr aelod olaf o’r mudiad i wynebu achos llys yn dilyn y cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn 2005 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
Prynhawn yma yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd achos Llys yn erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg.
Fel arfer, bydd amrywiaeth eang o artistiaid cerddorol yn diddanu eisteddfodwyr Abertawe eleni, wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eu lineups cyffrous ar gyfer yr wythnos.
Bydd y Gymdeithas, a enillodd wobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am ei gigs yn Eisteddfod 2005, yn defnyddio dwy ganolfan yn ystod yr wythnos, eleni. Y cyntaf o’r rhain yw Bar 5 yng nghanol y ddinas, a’r ail yw’r Glamorgan Arms ym Mhontlliw ar y cyrion.
Holwyd y Gweinidog Iaith a Diwylliant, Alun Pugh, yn galed yn Abertawe neithiwr yn ystod cyfarfod o'r Fforwm Iaith. Yn ystod cyfnod o ymgynghori'r llywodraeth ynglŷn â diddymu Bwrdd yr iaith Gymraeg, galwodd yr aelodau am ddeddf iaith newydd a thynnwyd sylw'r gweinidog at yr ŵyl fawr dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.
Am 12.30 prynhawn heddiw arestiwyd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd wedi cadwyno eu hunain at ddrws blaen yr Hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Penderfynodd y protestwyr gadwyno eu hunain at adeilad y llywodraeth er mwyn hoelio sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Er bod rhai misoedd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, mae bwrlwm digwyddiadau adloniant yr wythnos eisoes wedi dechrau wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi lleoliadau eu gigs.
Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal wythnos llawn o gigs yn ystod yr Eisteddfod eleni, a hynny yn nwy o ganolfannau gorau yr ardal.
Wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cafodd cyfarfod lobio pwysig ei gynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw dan y teitl 'Y Gymraeg – Hawliau Cyfartal?'. Trefnwyd y cyfarfod gyda chymorth Leanne Wood AC. Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Alun Thomas (Pennaeth Cyfathrebu y Comisiwn Anabledd) a Chris Myant (Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol):
fod y Gymraeg yn un o'r cydraddoldebau yng Nghymru
bod yn rhaid wrth hawliau drwy ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg
a bod yn rhaid wrth Gomisiynydd annibynnol i sicrhau’r hawliau hyn
Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r protestiadau ar Fawrth y 1af eleni - diwrnod agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymdeithas am hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
Ar drothwy dathliadau agor adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol, bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw unwaith eto am Ddeddf Iaith newydd heddiw trwy ddadorchuddio bilfwrdd dychanol o Rhodri Morgan. Yno yn cefnogi'r ymgyrch oedd Leanne Wood AC ac Owen John Tomos AC ar ran Plaid Cymru
Nos Fawrth Ionawr 24ain
Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
SIARAD:
Yr Athro Colin Williams (aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg)
John Elfed Jones (Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg)
Huw Lewis (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg).
CADEIRIO:
Hywel James (Cyfreithiwr)
PANEL:
Owen John Thomas AC (Plaid Cymru)
Eleanor Burnham AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
Lisa Francis AC (Ceidwadwyr).
Bydd geiriau o gefnogaeth i’r cyfarfod yn cael eu darllen hefyd. Ymhlith y rhai sydd wedi cynnig gair o gefnogaeth mae Dafydd Wigley, Dewi Watcyn Powell, Arglwydd Gwilym Prys Davies, Yr Aelod Senedd Elfyn Llwyd, Yr Aelod Ewropeaidd Jill Evans ac eraill.
Nos Fawrth, 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn ymgynghori ar yr angen am Ddeddfwriaeth Newydd ym maes y Gymraeg. Daw’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o drafodaeth wleidyddol ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol.
Daeth dau gant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Rali Calan y Mudiad gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw. Yn y rali datganodd Steffan Webb, Rheolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, ei gefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd.
Am 2 o'r gloch heddiw bydd Rali-brotest Deddf Iaith yn cael ei chynnal ar Stryd y Frehnines, Caerdydd (cychwyn ger cerflun Aneurin Bevan). Bwriad y rali yw crisialu holl ymgyrchoedd gwahanol Cymdeithas yr Iaith a fu’n tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.