Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.
Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 17 eg. Amser: 11:00am Lleoliad: Llys Ynadon Pwllheli Tref: Pwllheli
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli ar y 17 eg o fis Hydref.
Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”, yn dilyn pentwr o lythyron cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.
Bydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol. Digwyddodd hyn ar ôl i'r ddau gael eu harestio (gyda dau aelod arall nad ydynt yn wynebu achos llys) am beintio sloganau ar waliau siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon. Roedd hyn fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd fyddai yn meddu ar bwerau yn ymestyn i'r sector breifat.
Neithiwr (Awst 27 ain 2008) aeth aelodau o Gymdeithas yr Iaith, rhanbarth Clwyd, allan i weithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Woolworths a WHSmiths yng Nghonwy a Llandudno, fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i wedd newid y sector breifat. Codwyd sticeri ar ganghennau'r ddau gwmni yn gofyn 'Ble mae'r Gymraeg'
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Awst 14) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9. Derbyniodd dwy ferch ysgol oedd gyda hwy ar y noson rybudd gan yr heddlu. Ar y noson fe atafaelwyd car a ffonau symudol oedd yn perthyn i'r diffinyddion gan yr heddlu.
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill. Croesawn ei datganiaid yn siambr y Cyngor heddiw fod y Cyngor am symud ymlaen trwy gydsynio a thrwy gydweithio gyda Chynghrair Ysgolion Gwynedd a Chymdeithas yr Iaith. Dilewyd y cymal o'r cynnig yn gofyn i'r gweithgor newydd'llunio rhestr o ysgolion i'w cau.'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".
Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.
Fe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre. Yn ol neges y Gymdeithas at bob aelod, ymddengys fod swyddogion yn edrych ar ganlyniadau’r etholiad – a’r newid yn rheolaeth y Cyngor – fel anghyfleustra anffodus a’u bod yn benderfynol o frysio ymlaen i gael gwared ag ysgolion pentre.
Am 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.
Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.
Mewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.
Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol.
Ar derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”
"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.
Cynhaliwyd protest gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn siop Morrisons Caernarfon Dydd Sadwrn, (Mai 3ydd 2008). Ail gyflwynwyd taflenni uniaith Saesneg y cwmni yn ôl iddynt mewn pentwr mawr wrth fynedfa'r siop. Aeth aelodau ymlaen wedyn i geisio tynnu arwydd mawr uniaith Saesneg i lawr o'r tô. Gosodwyd hefyd sticeri'n datgan “Ble mae'r Gymraeg” ar draws y siop. Cafodd yr heddlu eu galw, ond ni chafodd unrhyw un eu harestio.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:
"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor. Fyddwn ni’n gwybod dim tan y flwyddyn nesaf am ddulliau cydweithio newydd rhwng ysgolion, a byddai’n gwbl annheg rhuthro i benderfynu ar ddyfodol ychydig o ysgolion unigol yn y cyfamser. Felly does gan y Cyngor ddim Cynllun ar ol i’w drafod yn ei gyfarfod ym mis Mehefin."
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bu aelodau o'r Gymdeithas yn picedu tu allan i Tesco Cyffordd Llandudno heddiw. Dosbarthwyd taflenni yn tanlinellu nad yw tocenistiaeth parhaol Tesco tuag at y Gymraeg yn ddigon da.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir. Mae'r Gymdeithas yn galw am ddefnyddio'r flwyddyn trwy ddychwelyd at bob ardal gan geisio atebion 'o'r gwaelod i fyny'. Mae'r Gymdeithas hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y bygythiad i gau 7 ysgol bentrefol Gymraeg yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn nesaf yn parhau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorau Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gydweithio gyda'i gilydd a chyda Cholegau Menai, Llandrillo a Meirion-Dwyfor i drefnu cynhadledd o’r holl gyrff Cyhoeddus perthnasol i drafod sut y gellir datblygu ysgolion pentrefol fel rhan o strategaeth adfywio'n cymunedau pentrefol Cymraeg.
Dydd Llun 11/02/08 Ysgol y Parc Bala > Capel Goffa Capel Celyn:
Daeth tyrfa o gefnogwyr Ymgyrch Cadwn Ein Hysgolion i'r Parc i ddangos eu gwrthwynebiad i gynllun Cyngor Gwynedd i gau nifer o'n hysgolion gwledig. Ymgynullodd pawb ar fuarth yr Ysgol am hanner awr wedi hanner ym mhresenoldeb camerau teledu a'r wasg. Dangoswyd y fideo am "Ddyddiau Olaf Ysgol Mynydd Cerrig" i bawb yna codwyd y baneri a cychwynnodd pawb ar gymal cyntaf "Taith Gerdded Cadwn Ein Hysgolion" dan heulwen braf diwrnod anarferol o hyfryd. Cerddwyd o'r Parc i Lidiardau a chroesi heibio Pengelli at Argae Llyn Celyn. Wedi croesi'r argae cerddwyd gyda glan y Llyn at y Capel Coffa. Yno, am bump o'r gloch, cynullodd y cerddwyr a nifer ychwanegol ddaeth i'w cyfarfod yn y Capel Coffa i wrando Heather Jones yn canu'r gan enwog "Colli Iaith" - geiriau Harri Webb a cherddoriaeth Meredydd Evans.
Cyflwynwyd anerchiadau pwrpasol i'r amgylchiad gan Ffred Ffransis (Cymdeithas yr Iaith), Dylan Davies (Ysgol Y Parc) a Gwenda Evans (Ysgol Glanrafon). Trefnwyd i gludo pawb yn ol i'r man cychwyn a llanwyd Neuadd y Parc eto erbyn saith. Arweiniwyd y cyfarfod yn briodol a phwrpasol gan Dan Puw. Cafwyd nifer o eitemau graenus ar lafar a chan gan blant yr Ysgol a Heather Jones a'r gynulleidfa'n ymuno yn ol y galw. Cyflwynodd Dylan Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr, air o ddiolch i bawb gymerodd ran ac a fu'n ymwneud a threfniadau'r diwrnod. Ychwanegodd fod ei blant y bedwaredd genhedlaeth o'r teulu i fynychu Ysgol y Parc a'i obaith i'r dyfodol yw y byddai'r bumed genhedlaeth yn cael yr un fraint.
Cludwyd "Bocs Postio" ar y daith ac roedd hefyd wedi ei leoli mewn man cyfleus yn ystod y Cyngerdd i gefnogwyr bostio eu negeseuon personol i gynghorwyr Gwynedd. Yn ystod gweddill yr wythnos bydd y Bocs Postio'n cael ei gludo o Benllyn i Ben-Llyn gan ymweld a sawl ysgol arall sydd dan fygythiad fel Ysgol y Parc. Brynhawn Dydd Gwener 15fed Chwefror cyflwynir cynnwys y Bocs Postio i Swyddogion Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon.
Penri Jones
Heather Jones yng Nghapel Coffa Celyn, adeg Taith Gerdded yr Ysgolion, Chwefror 2008
At borth marwolaeth, down â chi yn griw
o blant, i werthu'r stori ichi: dwr
y llyn yn Chwefror llonydd yn eich lliw
ac argae ar eich dagrau. Mae'r holl stwr
am foddi cwm ac iaith ymhell yn ôl
i chi, a phan ddaw'r gân am "golli ty
a cholli tyddyn", 'welwch chi mo'r ddôl,
na'r ysgol wag na chwymp y trawstiau du.
Yr eirlys wrth y Capel Coffa sydd
yn mynd â'ch bryd, a phwy 'dan ni y to
mewn cotiau tew yn ias y diwedd dydd
i sôn am ddyled, tynnu nerth o'r co'?
gan wybod, pan fydd nyth eich dryw yn chwalu
mai chi, y gwanwyn hwn, fydd piau'r talu.
Myrddin ap Dafydd
Dydd Mawrth 12/02/08, Capel Goffa Capel Celyn > Ysgol Croesor:
Dydd Mercher 13/02/08, Ysgol Croesor > Ysgol Llanystumdwy:
Dydd Iau 14/02/08, Pentref y Ffôr > Ysgol Llidiadrau, Rhoshirwaun:
Dydd Gwener 15/02/08, Ysgol Bron y Foel + Ysgol Baladeulyn > Groeslon > Caernarfon:
Taith blwch postio Bronyfoel
Un diwrnod oer yng nghanol Mis Chwefror,
Cynllunwyd taith Cadwn ein hysgolion,
Aeth ein blwch postio coch ar ei daith,
Gyda cefnogwyr ffyddlon Cymdeithas yr Iaith.
Cychwynnodd y daith yn ardal y Bala,
Llond gwlad o gefnogwyr, theulu a ffrindiau,
Gwrando ar Heather yn canu Colli Iaith,
A dyna oedd diwrnod cyntaf ein taith.
Cychwyn yr eil-ddydd dros fynydd a ffos,
A chyrraedd Croesor cyn gysgod y nos.
Cyfarfod yn 'rysgol i drafod ei thynged,
A dyna'r ail ddiwrnod - amser am baned!
A dyma'r bocs yn cyrraedd Eifionydd,
A cychwyn yn handi ar fore'r pedwerydd.
Cerdded ymlaen efo baneri mawr lliwgar
A gweiddi ein neges efo cymorth 'loudspicar'!
Cyrraedd Pen Llyn 'rol 75 milltir,
Stopio ym Mryncroes i gofio y frwydr,
Coesau blinedig ar diwedd y daith,
A'r blwch postio coch wedi gorffen ei waith.
Criw Nantlle a'r Fron yn cerdded Lôn Eifion,
A chamu ymlaen nes cyrraedd Caernarfon,
Gweiddi ein neges lawr Stryd y Llyn,
A chyflwyno'r llythyrau mewn sach mawr gwyn.
Diwedd y daith a chyflwyno'r ymatebion,
Dechrau'r frwydr i gadw'n hysgolion.
Cychwynodd Taith Gerdded Cymdeithas yr Iaith dros Ysgolion Pentrefol Gwynedd heddiw gan gerdded o Ysgol y Parc (un o’r rhai cyntaf sy tan fygythiad) at y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn. Bu cyfarfod byr am yn y Capel i gofio Tryweryn ac i ymdynghedu i frwydro i beidio a cholli chwaneg o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion.
Yn dilyn ein papur ymateb gwreiddiol i strategaeth ddrafft y Cyngor Sir, yr ydym yn awr yn cynnig y papur atodol hwn yn dilyn y diwygio sylweddol a fu ar gynllun y Cyngor o flaen eu cyfarfod ar 13.12.07. Yr ydym yn dal o’r farn (gweler ein hymateb gwreiddiol) fod y Cyngor wedi cyhoeddi ymchwil llawer mwy helaeth nag a wnaed mewn siroedd eraill ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol (ond ffaeledig yn ein tyb ni) o ran ymgynghori...
Bydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwthio Blwch Postio mawr 75 milltir ar draws sir Gwynedd fel rhan o’r frwydr dros ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Yn ystod y Daith Gerdded hon (wythnos hanner tymor) byddant yn ymweld ag ysgolion y mae Cyngor Gwynedd yn bygwth eu cau yn eu Cynllun Ad-drefnu gan annog trigolion lleol i bostio cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’r Cynllun. Ar hyd y ffordd cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus a chyngherddau.
Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.
Rali - Dros ein Hysgolion a'n Cymunedau
12pm Dydd Iau, Rhagfyr 13
O flaen Cyngor Sir Gwynedd, Caernarfon.
Mae'n fwriad gan Gyngor Gwynedd gau 33 o ysgolion bach, ambell un yn barhaol
a'r gweddill dan system ffederal fydd yn rhannu'r un pennaeth. Mae Cymdeithas yr Iaith yn anghytuno a'u strategaeth, a thra nad ydym yn gwrthwynebu ffederaleiddio yn ei hanfod, yr ydym yn gweld y cynllun hwn yn cael ei orfodi ar gymunedau.
Ar 13 Rhagfyr, bydd y Cyngor llawn yn cwrdd, ac rydym am i bawb bosib fod yno am hanner dydd (Cyngor yn cwrdd am 2pm) Y syniad yw cael negeseuon gan bob ysgol a chymuned yng Ngwynedd, nid y rhai dan fygythiad yn unig. Yr ydym yn gofyn i'r Cyngor ohirio unrhyw benderfyniad ar y diwrnod, a gwneud ymgynghoriad llawn a'r ysgolion er mwyn canfod beth yw'r ffordd orau ymlaen.
Os ydych am gynorthwyo gyda'r ymgyrch gallwch godi poster am y brotest yn eich pentref neu'ch cymuned leol. Cysylltwch gyda Angharad Tomos am bosteri. angharad[Dot]tomos [A Falwen]cymdeithas[Dot]org
Lles y plant a'u cymunedau sydd yn y fantol, nid cyflwr adeiladau a chyfrif 'lleoedd gwag'.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol Cymraeg i ddod yn llu i'r brotest yng Nghaernarfon cyn cyfarfod allweddol Cyngor Sir Gwynedd, am 12 o'r gloch Dydd Iau yma (13/12/07). Dywed y Gymdeithas fod y pwysau o gymunedau lleol eisioes wedi llwyddo i newid strategaeth y Cyngor Sir ac mai'r werth yw fod angen pwyso o hyd.
Am 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth. Bu y brotest ym Mangor yn dilyn cyfarfod hanesyddol gynhaliwyd ddydd Mercher diwethaf rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog Treftadaeth. Yn y cyfarfod hwnnw trafodwyd pa egwyddorion ddylid ei gynnwys mewn Deddf iaith Newydd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr agored at bob aelod o Gyngor Gwynedd yn galw arnynt i beidio a chefnogi'r cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion y sir gan fod arweinwyr y Cyngor wedi gwneud camgymeriad sylfaenol o ran ymgynghori cyhoeddus.
Mae'r Cyfarfod wedi symud erbyn hyn, felly os chi'n poeni am ddyfodol ysgolion cynradd pentrefol Gwynedd dewch erbyn 1pm yfory (Iau) at:
Swyddfa Ardal Arfon,
Penrallt,
Caernarfon,
Gwynedd, LL55 1BN
Yn dilyn cyhoeddiad Cyngor Gwynedd y bydd hyd at 29 o ysgolion cynradd Gwynedd yn gorfod cau o dan eu cynlluniau newydd, mae Cymdeihas yr iaith yn galw ar rieni, llywodraethwyr ac unrhyw un arall sydd yn poeni am ddyfodol ysgolion cynradd pentrefol a chymunedau Gwynedd i ymgasglu y tu allan i Swyddfa Ardal Arfon Cyngor Gwynedd, Penrallt, yng Nghaernarfon am 1 yp dydd Iau nesaf (25/10) cyn y bydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor yn cyfarfod i drafod y cynlluniau. Trwy wneud hyn gobeithiwn sicrhau y bydd y cynghorwyr a'r swyddogion yn cadw at eu gair o wrando ar lais pobl Gwynedd, yn hytrach na gwneud y penderfyniad y tu ol i ddrysau caeedig fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Dewch yn llu!
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf at arweinydd Cyngor Sir Gwynedd i dynnu nôl y bygythiad i gau dwsinau o ysgolion cynradd Cymraeg, o flaen cyfarfod allweddol heddiw o’r Pwyllgor Craffu Addysg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar arweinwyr Cyngor Gwynedd i wrando ar lais y bobl yn dilyn y cyhoeddiad heddiw o strategaeth sy'n bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
Mae angen unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus i arwain a chyd-lynu gwaith lobio ac ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru. Lleolir y Swyddfa yng Nghaernarfon. Mae trwydded yrru yn hanfodol i'r swydd yma.