tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Dogfennau

Coleg Ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu

Cyflwyna'r papur hwn gynllun gweithredu ar gyfer sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg (CFfC), un o bolisïau rhaglen llywodraeth Cymru'n Un sef y glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Ers i'r cysyniad o CFfC gael ei fabwysiadu fel polisi llywodraeth bu dechrau trafod ynghylch pa fath o strwythur fyddai i'r CFfC ac edrychwyd drachefn ar rai o'r gwahanol gynlluniau a roed gerbron yn y gorffennol. Mae'n fwy priodol nag erioed felly ein bod yn symud ymlaen i ystyried strwythur yr hyn a adwaenwn fel y CFfC a'n gobaith, yn y papur hwn, fydd goleuo rhyw ychydig ar yr hyn y mae'r term yn ei olygu. Mae angen troi'r slogan yn sylwedd.

Coleg ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu, Tachwedd 2007 (Ail argraffiad, Tachwedd 2008) (pdf - 225kb)


This paper proposes a plan of action for the establishment of a Welsh Federal College (WFC), a policy put forward by the One Wales government, the coalition between Labour and Plaid Cymru. Since the principle of a WFC was adopted as government policy, the debate began with regard to what type of structure there would be to the WFC, and some of the different proposals that were put forward previously were looked at once more. It is therefore more appropriate than ever that we move on to consider the form and structure of what we refer to as a Welsh Federal College, and it is our intention in this paper to clarify what is meant by the term; we need to turn the slogan into substance.

Welsh Federal College - Implementation Strategy, November 2007 (Second Edition, November 2008)(pdf - 245kb)

1 Tachwedd 2008 |

 

Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2008

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod na ellid cynnal yr holl rwydwaith o ysgolion pentrefol fel y mae. Mae pwysau o bob cyfeiriad ar yr ysgolion ac nid ydym yn dymuno gweld dirywiad graddol, anochel. Mynnwn fod llawer o ysgolion pentrefol sy’n hollol hyfyw fel y maent, ond ni ellir cynnal y statws quo mewn llawer o’r ysgolion pentrefol eraill. Cytunwn yn llwyr fod yn rhaid rhesymoli - y ddadl yw rhwng rhesymoli negyddol trwy’r broses ddiddychymyg o gau ysgolion neu resymoli cadarnhaol trwy osod strwythurau newydd gan gydweithio gyda rhieni, llywodraethwyr a chymunedau lleol, a chan weld addysg gynradd yng nghyd-destun ehangach cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardaloedd gwledig.

Yn y ddogfen hon, fe ddadleuwn dros Resymoli Cadarnhaol gan ein bod yn gweld pwysigrwydd allweddol yr ysgolion pentrefol i gynnal llawer o gymunedau Cymraeg, a hefyd fel modelau addysgol a allent fod yn flaengar iawn, ac yn esiampl i ardaloedd trefol.

Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2008 (pdf - 112kb)

Village Schools - The case for Positive Rationalisation 2008 (pdf - 129kb)

17 Mehefin 2008 |

 

Deddf Iaith Newydd 2008 - Llyfryn Esboniadol | New Welsh Language Act 2008 - Explanatory Booklet

Croesawn fwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Galwn ar y Llywodraeth i lunio Gorchymyn fydd yn sicrhau bod digon o bwerau yn cael eu rhoi i’r Cynulliad fel bod modd iddo basio Mesur Iaith newydd fydd yn sefydlu;

• Statws Swyddogol i’r Gymraeg
• Hawliau i’r Gymraeg
• Comisiynydd yr Iaith Gymraeg

Credwn fod y tri phennawd yma yn crynhoi’r elfennau y mae’n allweddol i’r Llywodraeth eu cynnwys yn y Gorchymyn, os ydyw o ddifrif ynghylch creu deddfwriaeth effeithiol mewn perthynas â’r Gymraeg, ac adeiladu Cymru ddwyieithog.

Lawrlwytho'r Ddogfen yn Gymraeg (pdf - 840kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

We welcome The Welsh Assembly Government’s intention to publish a Legislative
Competency Order for the Welsh language. We call on the Government to ensure that the Order will transfer adequate powers to the Assembly so that it can make provision for a new Welsh Language Measure that will establish;

• Official Status for the Welsh language
• Welsh language Rights
• A Commissioner for the Welsh language

We believe that these three points bring together the basic elements which need
to be included if the Government is serious about creating effective legislation for the Welsh language and building a truly bilingual Wales.

Lawrlwytho'r Ddogfen yn Saesneg /English (pdf - 799kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

3 Mehefin 2008 |

 

O ddifri am y Gymraeg? - Yr Her i'r Llywodraeth | Serious about Welsh? - The Challenge for Government

Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol. Ei ail bwrpas yw gosod her syml a diamwys wrth ddrws llywodraeth glymbleidiol bresennol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru – cyflwynwch ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac effeithiol ar yr iaith Gymraeg fel cam cyntaf tuag at ddangos bod y sefyllfa yma ar newid.

Dogfen: O ddifrif am y Gymraeg? - Yr her i'r Llywodraeth (pdf - 444kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

We have now seen ten years of devolution in Wales, and have experience of various administrations at some point including the Labour party, the Liberal Democrats and Plaid Cymru. The past ten years have also seen a number of policies relating to the Welsh language. This pamphlet’s first purpose is to show that none of these policies, from Iaith Pawb to the current position of the One Wales coalition, have been serious about safeguarding the future of the Welsh language, either due to ideological failings or practical failings. Its second purpose is to set the current Labour-Plaid coalition a clear challenge – to introduce comprehensive and effective legislation on the Welsh language as a first step to showing that this situation is about to change.

Dogfen: Serious about Welsh? - The Challenge for Government (pdf - 587kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

30 Mai 2008 |

 

Ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy. Mae amserlen y cyngor o ran adolygu holl ysgolion cynradd y sir i'w weld ar wefan y Cyngor, a defnyddir yr un iaith arferol am yr angen i gwtogi ar lefydd gwag a gwella adeiladau a chanrifoedd newydd ! Mae bygythiad ymhlyg i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir, ond nid enwyd eto unrhyw ysgolion.

17 Chwefror 2008 | Mwy...

 

Ymateb i Strategaeth Cyngor Gwynedd ar Ad-drefnu Addysg Gynradd

Yn dilyn ein papur ymateb gwreiddiol i strategaeth ddrafft y Cyngor Sir, yr ydym yn awr yn cynnig y papur atodol hwn yn dilyn y diwygio sylweddol a fu ar gynllun y Cyngor o flaen eu cyfarfod ar 13.12.07. Yr ydym yn dal o’r farn (gweler ein hymateb gwreiddiol) fod y Cyngor wedi cyhoeddi ymchwil llawer mwy helaeth nag a wnaed mewn siroedd eraill ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol (ond ffaeledig yn ein tyb ni) o ran ymgynghori...

Ymateb Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i Strategaeth Cyngor Gwynedd ar Ad-drefnu Addysg Gynradd - Chwefror 2008 (pdf)

8 Chwefror 2008 |

 

Ymateb i ddrafft-gynllun Ad-drefnu Cynradd Cyngor Gwynedd

Cydnabyddwn fod y Cyngor Sir wedi gwneud llawer fwy o ymdrech o ran ymgynghori a phobl Gwynedd am ddyfodol y rhwydwaith o ysgolion nag sydd wedi digwydd mewn siroedd eraill....

Ymateb Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i ddrafft-gynllun Cyngor Sir Gwynedd Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir - Tachwedd 2007 (pdf)

6 Tachwedd 2007 |

 

Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2007

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod na ellid cynnal yr holl rwydwaith o ysgolion pentrefol fel y mae. Mae pwysau o bob cyfeiriad ar yr ysgolion ac nid ydym yn dymuno gweld dirywiad. Mynnwn fod llawer o ysgolion pentrefol sy’n hollol hyfyw fel y maent, ond ni ellir cynnal y statws quo mewn llawer o’r ysgolion pentrefol eraill. Cytunwn yn llwyr fod yn rhaid rhesymoli – y ddadl yw rhwng rhesymoli negyddol trwy’r broses di-ddychymyg o gau ysgolion NEU resymoli cadarnhaol trwy osod strwythurau newydd gan gydweithio gyda rhieni, llywodraethwyr a chymunedau lleol.

Yn y ddogfen hon, fe ddadleuwn dros RESYMOLI CADARNHAOL gan ein bod yn gweld pwysigrwydd allweddol yr ysgolion pentrefol i’r Gymraeg, i fywyd cymunedol ac fel modelau addysgol a allent fod yn flaengar iawn.

1 Medi 2007 | Mwy...

 

Ymateb i Bapur S4C, Gwasanaethau Plant yn y Dyfodol Digidol

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Bapur Ymgynghorol Awdurdod S4C ‘Gwasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol’, Gorffennaf 2007

Lawrlwytho'r Ddogfen (pdf)

1 Gorffennaf 2007 |

 

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Legislative Competence Order

Enghraifft o eiriad Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Example of the wording of a Legislative Competence Order (LCO).

Mesur Iaith / Language Measure LCO (pdf) 119kb

29 Mehefin 2007 |

 

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 - Welsh Language Measure 2007

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 (PDF, 112KB)

Mesur a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu i’r iaith Gymraeg, a hithau’n briod iaith Cymru, fod yn iaith swyddogol yng Nghymru; i roi hawliau i bobl Cymru gael gwasanaethau yn Gymraeg, gweithio yn Gymraeg a dysgu’r Gymraeg; i sefydlu Comisiynydd Iaith Cymru; i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg; ac i ddibenion cysylltiedig.

Welsh Language Measure 2007 (PDF, 114KB)

A Measure approved by the National Assembly for Wales to provide that the Welsh language, being the native language of Wales, shall be an official language in Wales; to give to the people of Wales the right to receive services through the medium of Welsh, to work through the medium of Welsh and to learn Welsh; to establish a Language Commissioner for Wales; to establish a Welsh Language Council; and for connected purposes.

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

10 Mawrth 2007 |

 

Cyflwyniad "Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal?"

Dyma'r cyflwyniad 'Power Point' a gafodd ei ddefnyddio yn ystod Lobi Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal? yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2006. Yn cyfrannu i'r lobi yr oedd Leanne Wood (AC Plaid Cymru), Catrin Dafydd (Caeirydd grwp Deddf Iaith), Alun Thomas (Comisiwn Hawliau Anabledd), Chris Myant (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Mae'r cyflwyniad wedi ei drosi i PDF:

Lawrlwytho'r Cyflwyniad dwyieithog (384KB)

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

22 Mawrth 2006 |

 

Proclamasiwn a Dogfen Gefndir 'Cymraeg yn Hanfodol!'

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y cyrff cyhoeddus hynny sydd yn gwasanaethu ein cymunedau Cymraeg, i gymryd camau pendant ar frys i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn dod yn hanfodol i'w holl waith. Mae cymryd camau o'r fath yn angenrheidiol os ydym am normaleiddio'r defnydd o’r iaith Gymraeg fel cyfrwng byw o fewn ein cymunedau...

Mae'r dogfennau canlynol ar gael fel ffeiliau PDF:
Proclamasiwn Cymraeg yn Hanfodol (pdf - 52kb)
Dogfen gefndir Cymraeg yn Hanfodol (pdf - 80kb)

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

23 Tachwedd 2005 |

 

Deddf Iaith Newydd i’r Gymraeg - Cynigion ar gyfer Deddf Iaith Newydd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer
normaleiddio defnydd o’r Gymraeg...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Lawrlwytho'r Ddogfen Cymraeg (316KB)
Lawrlwytho'r Ddogfen Saesneg (332KB)


I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

1 Tachwedd 2005 |

 

Cymraeg yn Hanfodol: Cyfnod Newydd i Addysg ôl-16

Siarter ar gyfer Colegau Menai, Meirion-Dwyfor, Sir Gâr a Cheredigion.

1. Mae’r Colegau hyn o’r pwys mwyaf i’n cymunedau Cymraeg gan eu bod yn darparu addysg llawn-amser i bobl ifainc sydd, at ei gilydd, yn bwriadu ymgartefu yn y cymunedau Cymraeg hyn ac addysg rhan-amser i filoedd yn rhagor o drigolion hŷn y cymunedau...

1 Awst 2005 | Mwy...

 

Dogfen: Cymru 2020 - Colli Tir? Colli Iaith? - Ennill Tir! Cadw Iaith!

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen llawn. Byddwch yn amyneddgr, dogfen PDF yw hon, a gall gymryd peth amser i'w lawrlwytho.

1 Awst 2005 |

 

Y Llawlyfr Deddf Eiddo: Drafft Ymgynghorol - Mai 2005

Mae bellach yn dair mlynedd ar ddeg ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr Deddf Eiddo. Amserol felly yw adolygu, diwygio a diweddaru’r llawlyfr gwreiddiol yn sgil y datblygiadau a welwyd yn ystod y 1990au ac ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif newydd ym maes tai a chynllunio...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Lawrlwytho'r ddogfen yn Gymraeg (530KB)
Download Document in English (574KB)

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

17 Mai 2005 |

 

‘Moderneiddio’ Iaith Sir Gâr - Effaith cau Ysgolion Pentrefol ar gyfrwng yr addysgu yn Sir Gâr.

Yn y papur hwn, ystyriwn oblygiadau cynlluniau Cyngor Sir Gâr mewn perthynas uniongyrchol â chyfrwng addysgu plant yn y sir. Cyflwynwn dystiolaeth sy’n dangos y gall y strategaeth arwain yn uniongyrchol at leihad sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gâr ac y bydd yn tanseilio’r polisi y brwydrwyd mor galed i’w gyflwyno – sef cyflwyno addysg yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg trwy ysgolion Categori A.

1 Mai 2005 | Mwy...

 

Ymateb i'r ymgynghoriad ar Gynigion Ofcom

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad ar Gynigion Adolygu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan Ofcom, Ebrill 2005

Lawrlwytho'r ddogfen (pdf)

1 Ebrill 2005 |

 

Siarter Ceredigion

SIARTER CEREDIGION 2005
Creu dyfodol i’r Gymraeg yng Ngheredigion : rhaglen weithredu ar gyfer y Cyngor Sir

Nid gwaith hawdd yw amddiffyn y Gymraeg yn wyneb y pwysedd economaidd a chymdeithasol sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Caiff dylanwadau rhyfeddol y nerthoedd hynny a adnabyddir yn gyffredin fel rhai globaleiddio, eu gweld yn yr effaith ar sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau Ceredigion. Nid gwaith hawdd fydd gwrthsefyll a gwrthdroi’r dylanwadau hynny, ond nid yw’n amhosib...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Dod yn fuan

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

2 Mawrth 2005 |

 

Siarter Sir Gâr

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

12 Hydref 2004 |

 

Llwyddiant Ysgolion Pentre - Model ar gyfer ein Trefn Addysg yng Nghymru

Gydag etholiad cynghorau sir newydd, galwn am bartneriaeth newydd rhwng y Cynulliad ac awdurdodau lleol i ddatblygu ein hysgolion pentre'n ganolfannau addysg ac adfywio cymunedol. Yn lle ymosod ar ein hysgolion pentre, dylid cydnabod eu llwyddiant a'u defnyddio fel model ar gyfer datblygu adnoddau addysgiadol ac adfywio cymunedol ym mhob cymdogaeth yng Nghymru.

1 Mai 2004 | Mwy...

 

Y Gymraeg a'r drefn gynllunio

Cyflwyniad

Trwy gyfrwng y broses gynllunio mae pobl yn gallu mynegi eu gweledigaeth o ddyfodol eu cymunedau. O ganlyniad mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau ers blynyddoedd ei bod hi'n hollbwysig i sicrhau lle canolog ac ystyrlon i anghenion y Gymraeg yn y maes hwn.

28 Ebrill 2004 | Mwy...

 

Tai ac Eiddo i'w Rhentu

Cyflwyniad

Hyd yn oed gyda chymorth gan yr awdurdodau, ni fydd prynu ty yn ymarferol i bawb. Er engrhaifft, pan fo person yn derbyn budd-daliadau neu'n gweithio ar gytundeb tymor-byr, gall fod yn anodd iawn cael morgais. Yn wir, o ganlyniad i dlodi, cyflogau isel a phrisiau afresymol y farchnad, mae angen sylweddol am eiddo ar rent yng Nghymru.

28 Ebrill 2004 | Mwy...

 

Y Cynllun Cymorth Prynu

Cyflwyniad

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gan y Cynllun Cymorth Prynu rôl allweddol i'w chwarae wrth hyrwyddo mynediad prynwyr tro cyntaf i'r farchnad dai.

28 Ebrill 2004 | Mwy...

 

Addysg: Dysgu ar gyfer Datblygiad Cymuned

Yn ei thymor cyntaf rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol bwyslais ar ddatblygiad cymuned yn ei pholisiau yn ymwneud ’ thlodi, adferiad cymunedol, y Gymraeg, addysg gydol oes, cynaliadwyaeth, cynllunio cymunedol a sawl maes arall. Cynhyrchwyd sawl dogfen strategaeth yn y meysydd hyn. Un enghraifft yw ëCymunedauín Gyntafí, sef cynllun i hyrwyddo ymdrechion trigolion ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ddatrys rhywfaint ar eu problemau economaidd a chymdeithasol.

1 Hydref 2003 | Mwy...

 

Addysg: Gwerth Astudiaethau Cymunedol fel sylfan i Addysg a dealltwriaeth ar gyfer Democratiaeth.

Trwy astudio cysyniadau haniaethol yng nghyd-destun y gymuned leol, daw myfyrwyr i ddeall yn rhwyddach weithrediad y byd ehangach. Mae Astudiaethau Cymunedol o'r herwydd yn syniad sylfaenol allblyg, nid un plwyfol . Caiff yr Astudiaethau eu gwreiddo yn y gymuned, ond ni fyddant wedi eu cyfyngu ynddi:

1 Hydref 2003 | Mwy...

 

Addysg: Perthnasedd ac atebolrwydd addysg alwedigaethol ac ol 16 yng Nghymru.

Gydaír Cynulliad Cenedlaethol ar ei ail dymor, argymhellion Adroddiad ETAG ar Addysg Ùl 16 (1999) ar waith a chyfnod tyngedfenol cefogaeth Arian Amcan 1 yn prusur fynd rhagddo mae¼n amserol codi nifer o gwestiynau ynghylch perthnasedd yr addysg alwedigaethol sy¼n cael ei gynnig, effeithiolrwydd y fframwaith sydd yn ei ddarparu a gwir atebolrwydd y cyfan i gymunedau a chynulliad Cymru.

1 Hydref 2003 | Mwy...

 

Addysg: Addysg Berthnasol - Cwricwlwm Cyflawn i Gymru.

Bydd y mwyafrif o Addysgwyr yn ystyried ein galwad am ailolwg ar ein system addysg gyda'r un brwdfrydedd a dilynwyr peldroed Cymru yn mynd i Bortiwgal os na fyddwn drwodd o'r gemau ail-gyfle i Euro 2004! Boddwyd addysg yng Nghymru o dan lif o ddiwygiadau ers degawd a hanner.

1 Hydref 2003 | Mwy...

 

Gwreiddiwch yn y Gymuned: Papur Trafod

Gwreiddiwch yn y Gymuned
Effeithiau canoli economaidd ar gymunedau Cymru

Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Awst 2003

Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, Pen Roc, Rhodfaír MÙr, Aberystwyth, SY23 2AZ
FfÙn (01970) 624501 Ffacs (01970) 627122 Ebost swyddfa@cymdeithas.com

1 Awst 2003 | Mwy...

 

Addysg: Ymateb CYIG i Gynllun Iaith PCA

pca3.jpg
YMATEB CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG I GYNLLUN IAITH GYMRAEG COLEG PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH

17 Hydref 2002 | Mwy...

 

Addysg: Trefniadaeth Ysgolion yn Ardal Pencader

TYSTIOLAETH I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN AC I'R GWEINIDOG ADDYSG JANE DAVIDSON AR RAN LLYWODRAETHWYR YSGOL GYNRADD WIRFODDOL LLANFIHANGEL-AR-ARTH - MEWN CYDWEITHREDIAD A GRWP ADDYSG CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

1 Medi 2002 | Mwy...

 

Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg mewn Addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith yn amheus o Gylch Garchwyl adolygiad y Pwyllgor Addysg yn yr un modd ag yr ydym yn amheus o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Diwylliant ei hunan yn ei adolygiad. Amau ydym na ellir cynnal adolygiad llwyddiannus o sefyllfa'r iaith tu fewn i fframwaith pwyllgor arbennig fel Diwylliant ac y dylid yn hytrach archwilio fel y mae holl benderfyniadau'r Cynulliad yn effeithio ar yr iaith.

27 Chwefror 2002 | Mwy...

 

Maniffesto 2002: Y Gymraeg yn Goroesi Globaleiddio

MANIFFESTO 2002 - Y Gymraeg yn Goroesi Globaleiddio

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen (138KB).

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

1 Ionawr 2002 |

 

Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd

Diwygiad 2001

1 Gorffennaf 2001 | Mwy...

 

Y Cynulliad: Arwain o'r Gadair

Rhagfyr 1999. Sut i gynnal Cyfarfodydd Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rhagair

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf wedi galw am Gynulliad Cenedlaethol trwyadl ddwyieithog. Er mwyn sicrhau hynny rhaid wrth fwy na system gyfieithu effeithiol. Mae'n rhaid gwneud yn siwr hefyd fod aelodau'r Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posibl o'r Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.

1 Rhagfyr 1999 | Mwy...

 

Addysg: Her i Ysgolion Gwledig 2000

Mehefin 1999. Yr angen am frwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

A. Rhagair

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol. Nid oes sicrwydd am oroesiad yr ysgolion, nac am y cymunedau Cymraeg chwaith.

1 Gorffennaf 1999 | Mwy...

 

Cymunedau Rhydd: Llawlyfr Deddf Eiddo

Llawlyfr Deddf Eiddo - papur gwaith 2: Tai a Chynllunio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen (308KB).

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

1 Ebrill 1999 |

 

Y Cynulliad: Agenda 2000

Awst 1998. Agenda ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwyniad

GwÍl Cymdeithas y laith Gymraeg sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yn holl hanes diweddar Cymru. Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd ’ hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.

1 Awst 1998 | Mwy...

 

Addysg Bellach yng Nghymru

ADDYSG 16+ MEWN YSGOLION

Yn draddodiadol, bu rhwyg rhwng addysg academaidd 'chweched dosbarth' ac addysg alwedigaethol mewn sefydliadau eraill. Bu Ilawer o bwyso dros y blynyddoedd i sicrhau'r hawl i addysg academaidd yn y Gymraeg a, Ile bo chweched dosbarthiadau'n parhau, bydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yn pwyso am

1 Awst 1997 | Mwy...

 

Y Ddarlith Enwog: Tynged yr Iaith

Haf 1972, Hydref 1985, Gwanwyn 1997 - Y Ddarlith a Newidiodd Hanes Cymru

"[Yr iaith Gymraeg yw'r] unig fater politicaidd y mae'n werth i Gymro ymboeni ag ef..."

"Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi yn amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg. Hawlier fod papur y dreth yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg. Rhoi rhybudd i'r Postfeistr Cyffredinol na thelir trwyddedau blynyddol oddieithr eu cael yn Gymraeg. Mynnu fod pob gwŷs i lys yn Gymraeg..."

"Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo..."

Y ddarlith fwyaf arwyddocaol gafwyd yn hanes yr iaith Gymraeg. Newidiodd gwrs hanes Cymru -- ac mae nawr ar gael ar y We Fyd-Eang

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

1 Ebrill 1997 |

 

Dyma Gymdeithas yr Iaith: Dewch Gyda Ni!

Mawrth 1997. Dyma Gymdeithas yr Iaith...

Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

1 Mawrth 1997 |

 

Newyddion
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rhagor...

nôl i'r brig