tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Deddf Iaith

Rali Flynyddol, Y Rhybudd Olaf, ABERYSTWYTH

RALI FLYNYDDOL
Y Rhybudd Olaf!

2pm, Dydd Sadwrn Hydref 25ain 2008
Canolfan Morlan, Aberystwyth

25 Hydref 2008 |

 

Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, CAERNARFON

Dyddiad: Dydd Mercher, Awst 13, 2008
Amser: 9:00am
Lleoliad: Llys Ynadon Caernarfon
Tref: Caernarfon

Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon ar y 16ed o Orffennaf.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”, yn dilyn pentwr o lythyron cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.

Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!

13 Awst 2008 |

 

Dau aelod amlwg o'r Gymdeithas yn y Llys yng Nghaernarfon

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysBydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Awst 14) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.

12 Awst 2008 | Mwy...

 

Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf! CAERDYDD

1pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf!
Uned Cymdeithas yr Iaith

Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008

Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl cyhoeddiad am fanylion Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg. Dyma'r cyfle gorau posib am ddegawd arall a mwy i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn derbyn yr hawl i weld, clywed a defnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Mae'r cwmnïau amlwladol sydd yn gwneud biliynau o bunnoedd o elw o gymunedau Cymru yn gwbwl anystyriol o'r iaith Gymraeg ac yn gwbwl amharchus o hawlia eu cwsmeriaid. Mae profiad y ddegawd ddiwethaf wedi dangos yn glir na ellid sicrhau hawliau ym maes y Gymraeg heb orfodaeth trwy ddeddfwriaeth - dyma'r cyfle i sicrhau hyn unwaith ac am byth. Rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth sicrhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, sefydlu Comisiynydd Iaith gref ac annibynnol, a sefydlu hawliau i bawb o bobl Cymru.

Ac i ddilyn...

2.15pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Gweithdy Deddf Iaith Newydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith

Mae gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith ar fater deddf iaith newydd yn gofyn am amrywiaeth o ddulliau ymgyrchu a lobio. Mae’r ymgyrch weithredol i drawsnewid cwmnïau uniaith Saesneg y sector breifat drwy sticeri, picedi a gweithredu uniongyrchol yn ei anterth. Ar yr un pryd, rydym ni’n cynnal cyfarfodydd lobio rheolaidd gyda’r llywodraeth i geisio sicrhau bod unrhyw ddeddf iaith newydd yn un gwerth ei chael. Er mwyn ymuno a’r ymgyrch neu i drafod dulliau o weithredu, dewch draw i’r uned!

7 Awst 2008 |

 

Rhybudd Olaf Cymdeithas yr Iaith i’r Llywodraeth

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.

7 Awst 2008 | Mwy...

 

Lansio Cyfrol gan Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg, CAERDYDD

Hawl i'r GymraegAm 1 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Awst 4) bydd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth, yn un o nifer ddaw i lansiad llyfr ar statws gyfreithiol iaith Gymraeg ym Mhabell y Gymdeithas (unedau 906 -908). Mae'r llyfr 'Hawl i'r Gymraeg' gan Gwion Lewis, sy'n un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth, yn edrych ar hawliau ieithyddol y Cymry Cymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ei lyfr mae Gwion Lewis yn dadlau na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod ein hawl ddiymwad i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ei obaith yw y bydd y llyfr nerthu ac yn cryfnau yr alwad am Fesur iaith newydd.

Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fydd yn siarad yn y cyfarfod gyda gyda Cynog Dafis: "Dyma lyfr anhepgor y bydd yn rhaid i'r Gweinidog Treftadaeth ei ddarllen ar ei union a hithau yn amser tyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith newydd."

4 Awst 2008 | Mwy...

 

Dau aelod yn y Llys yng Nghaernarfon

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9. Derbyniodd dwy ferch ysgol oedd gyda hwy ar y noson rybudd gan yr heddlu. Ar y noson fe atafaelwyd car a ffonau symudol oedd yn perthyn i'r diffinyddion gan yr heddlu.

15 Gorffennaf 2008 | Mwy...

 

Fideo: Aelodau o'r Gymdeithas yn gweithredu yn erbyn Boots

Mehefin 2008

Aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn peintio'r slogan "95% Uniaith Saesneg" ar siopau 'Boots' yn Aberaeron a Llambed fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i weddnewid y sector breifat.

1 Gorffennaf 2008 |

 

Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

1 Gorffennaf 2008 | Mwy...

 

Boots Ceredigion a Sir Gâr 93-95% Saesneg yn unig!

GweithredBootsLlambed.jpgFe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

18 Mehefin 2008 | Mwy...

 

Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Ble mae'r Gymraeg?Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.

9 Mehefin 2008 | Mwy...

 

Fideo: Lansiad llyfryn 'O ddifrif am y Gymraeg' Urdd 2008

Lansiad y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, gyda nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned ar faes Eisteddfod yr Urdd er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.

Mai 2008

4 Mehefin 2008 |

 

Deddf Iaith Newydd 2008 - Llyfryn Esboniadol | New Welsh Language Act 2008 - Explanatory Booklet

Croesawn fwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Galwn ar y Llywodraeth i lunio Gorchymyn fydd yn sicrhau bod digon o bwerau yn cael eu rhoi i’r Cynulliad fel bod modd iddo basio Mesur Iaith newydd fydd yn sefydlu;

• Statws Swyddogol i’r Gymraeg
• Hawliau i’r Gymraeg
• Comisiynydd yr Iaith Gymraeg

Credwn fod y tri phennawd yma yn crynhoi’r elfennau y mae’n allweddol i’r Llywodraeth eu cynnwys yn y Gorchymyn, os ydyw o ddifrif ynghylch creu deddfwriaeth effeithiol mewn perthynas â’r Gymraeg, ac adeiladu Cymru ddwyieithog.

Lawrlwytho'r Ddogfen yn Gymraeg (pdf - 840kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

We welcome The Welsh Assembly Government’s intention to publish a Legislative
Competency Order for the Welsh language. We call on the Government to ensure that the Order will transfer adequate powers to the Assembly so that it can make provision for a new Welsh Language Measure that will establish;

• Official Status for the Welsh language
• Welsh language Rights
• A Commissioner for the Welsh language

We believe that these three points bring together the basic elements which need
to be included if the Government is serious about creating effective legislation for the Welsh language and building a truly bilingual Wales.

Lawrlwytho'r Ddogfen yn Saesneg /English (pdf - 799kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

3 Mehefin 2008 |

 

O ddifri am y Gymraeg? - Yr Her i'r Llywodraeth | Serious about Welsh? - The Challenge for Government

Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol. Ei ail bwrpas yw gosod her syml a diamwys wrth ddrws llywodraeth glymbleidiol bresennol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru – cyflwynwch ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac effeithiol ar yr iaith Gymraeg fel cam cyntaf tuag at ddangos bod y sefyllfa yma ar newid.

Dogfen: O ddifrif am y Gymraeg? - Yr her i'r Llywodraeth (pdf - 444kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

We have now seen ten years of devolution in Wales, and have experience of various administrations at some point including the Labour party, the Liberal Democrats and Plaid Cymru. The past ten years have also seen a number of policies relating to the Welsh language. This pamphlet’s first purpose is to show that none of these policies, from Iaith Pawb to the current position of the One Wales coalition, have been serious about safeguarding the future of the Welsh language, either due to ideological failings or practical failings. Its second purpose is to set the current Labour-Plaid coalition a clear challenge – to introduce comprehensive and effective legislation on the Welsh language as a first step to showing that this situation is about to change.

Dogfen: Serious about Welsh? - The Challenge for Government (pdf - 587kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

30 Mai 2008 |

 

'Mae'r Ysgrifen ar y Mur' - Deddf Iaith Newydd – Yr Her i’r Llywodraeth

Mur Graffiti Deddf Iaith NewyddAm 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.

Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.

30 Mai 2008 | Mwy...

 

Mae'r 'sgrifen ar y mur! O ddifrif am y Gymraeg!, Eisteddfod yr Urdd

3pm Gwener 30 Mai – Uned Cymdeithas yr Iaith

Mae'r 'sgrifen ar y mur! O ddifrif am y Gymraeg!

Mynnwn Ddeddf Iaith Newydd gan Lywodraeth Cymru'n Un. Dewch i Uned y Gymdeithas i weld enwogion yn ychwanegu eu graffiti ar y mur.'

30 Mai 2008 |

 

Rhodri Glyn yn taflu llwch i lygaid Pobl Cymru

Ble mae'r Gymraeg?Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

8 Mai 2008 | Mwy...

 

Gweithredu yn erbyn Morrisons Caernarfon

Ble mae'r Gymraeg?Cynhaliwyd protest gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn siop Morrisons Caernarfon Dydd Sadwrn, (Mai 3ydd 2008). Ail gyflwynwyd taflenni uniaith Saesneg y cwmni yn ôl iddynt mewn pentwr mawr wrth fynedfa'r siop. Aeth aelodau ymlaen wedyn i geisio tynnu arwydd mawr uniaith Saesneg i lawr o'r tô. Gosodwyd hefyd sticeri'n datgan “Ble mae'r Gymraeg” ar draws y siop. Cafodd yr heddlu eu galw, ond ni chafodd unrhyw un eu harestio.

5 Mai 2008 | Mwy...

 

Fideo: Protest yn erbyn Morrisons Caernarfon

Protest Cymdeithas yr Iaith yn Morrisons Caernarfon

Mai 3ydd 2008

3 Mai 2008 |

 

Fideo: Picedu Tesco Cyffordd Llandudno

Cymdeithas yr Iaith yn picedu Tesco Cyffordd Llandudno fel rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat.

Ebrill 2008

30 Ebrill 2008 |

 

Cymdeithas yr Iaith yn targedu Tesco Rhydaman

Ble mae'r Gymraeg?
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y
Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd
aelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydaman
prynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith
yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan
ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

24 Ebrill 2008 | Mwy...

 

Cymdeithas targets Tesco in Ammanford

Ble mae'r Gymraeg?As part of Cymdeithas yr Iaith's campaign to remind the Assembly
Government of the need for strong legislation regarding the Welsh
language, members of Cymdeithas will be picketing outside Tesco store
in Ammanford on Saturday afternoon the 26th of April at 2pm.
Cymdeithas yr Iaith will be targeting 2 private sector companies every
2 months from now until the end of the year, focusing on Tesco and
Morrisons in the months of March and April.

24 Ebrill 2008 | Mwy...

 

Piced Iaith yn y Brifddinas ac ym Mangor

Ble mae'r Gymraeg?Cynhaliwyd bicedi tu allan i Tesco Express Salisbury Road yng nghanol Cathays, Caerdydd a thu allan i Tesco Bangor heddiw. Roedd y digwyddiadau yma yn rhan o ddeufis o weithgaredd gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn Morrisons a Tesco i bwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr. Bydd mwy o bicedi a phrotestiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.

16 Ebrill 2008 | Mwy...

 

Chwarae Jôc Ffwl Ebrill ar Tesco a Morrisons

Ble mae'r Gymraeg?Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sticeri siopau Morrisons a Tesco drwy Gymru neithiwr. Targedwyd siopau yn perthyn i'r ddau gwmni ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd (yn Nhrefynach a dwy ar Heol y Bont Faen). Peintiwyd slogan ar wal siop Morrison yng Nghaernarfon.

1 Ebrill 2008 | Mwy...

 

Fideo: Targedu Morrisons a Tesco Bangor

Rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat 2008.

31 Mawrth 2008 |

 

Maer tref Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth a Ebrill.

26 Mawrth 2008 | Mwy...

 

Gweddnewid y Sector Breifat 2008

GWEDDNEWID Y SECTOR BREIFAT 2008 – DEDDF IAITH NEWYDD!

gweddnewid1.gif gweddnewid2.gif
Pwyswch ar y lluniau uchod i agor fersiwn mwy o faint, neu pwyswch yma i lawrlwytho'r daflen uchod fel pdf.

Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni yn targedi cwmnïau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Galwn ar ein haelodau a chefnogwyr i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol.

Rydym yn galw ar y cwmnïau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Lawrlwythwch y llythyrau enghreifftiol perthnasol trwy bwyso ar y dolenni canlynol. Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon y gwyn wedi'u nodi hefyd. Dyma'r amserlen llythyru.

Gorffenaf/Awst ’08 – Woolworths/W H Smiths

WOOLWORTHS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Woolworths - (RTF)
* customer.relations@woolworths.co.uk 
* Woolworths Customer Relations, Woolworths House, Royal Barn Road, Castleton, Rochdale, Lancashire, OL11 3DU

WH SMITH
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at WH Smith - (RTF)
* customer.relations@whsmith.co.uk
* The Customer Services Team, WH Smith, Greenbridge Road, Swindon, SN3 3LD

Medi/Hydref ’08 – Abbey/Co-op Bank

ABBEY
* Antonio.Osorio@abbey.com - http://www.abbey.com/
* Complaints Department, Abbey, PO BOX 5129, Milton Keynes, MK9 2YN

CO-OP BANK
* customerservice@co-operativebank.co.uk
* Customer Service, PO Box 200, Delf House, Southway, Skelmersdale, Lancs, WN8 6GH

Tachwedd/Rhagfyr ’08 – Orange/Vodafone

ORANGE
* http://www1.orange.co.uk/mobilecontactus/form.php?customer=imnotacustomer - Olaf.Swantee@orange.co.uk
* Orange Customer Care, Orange UK Plc, PO Box 486, Rotherham, S63 5ZX

VODAFONE
* arun.sarin@vodafone.com - http://vodafone.co.uk/
* Customer Care, Vodafone House, The Connection, Newbury, Berkshire, RG14 2FN.

Os derbynia'r cwmniau yma cannoedd ar gannoedd o gwynion dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn sicrhau newid. Dyma’r cyfle i bawb grynhoi ein hegni i fynnu hawliau i’r Gymraeg yn y sector breifat unwaith ac am byth.

DEWCH GYDA NI!

01970624501 - swyddfa@cymdeithas.org

Targedau'r misoedd a fu:

Mawrth/Ebrill ‘08– Morrisons/Tesco

TESCO
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Tesco - (RTF)
* Tesco Customer Service, PO Box 73, Baird Avenue, Dryburgh Industrial Estate, Dundee, DD1 9NF
* www.tesco.com/help/contact/contactus1.asp - customer.services@tesco.co.uk - terry.leahy@tesco.com

MORRISSONS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Morrisons - (RTF)
* Customer Service Department, Wm Morrison Supermarkets PLC, Hilmore House, Gain Lane, Bradford, BD3 7DL
* angus.maciver@morrisonsplc.co.uk, marc.bolland@morrisonsplc.co.uk, chris.blundell@morrisonsplc.co.uk,

Mai/Mehefin ’08 – Boots/Superdrug

BOOTS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Boots - (RTF)
* http://www.boots.com/help/BootsStoresServiceComments_contact.jsp  - richard.baker@boots-plc.com
* Boots Customer Care, PO Box 5300, Nottingham, NG90 1AA

SUPERDRUG
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Superdrug - (RTF)
* help@superdrug.com
* Customer Services, 118 Beddington Lane, Croydon, Surrey, CR0 4TB

20 Mawrth 2008 |

 

Llythyru Woolworths a WH Smiths

Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Woolworths a WH Smoth mewn ffurf RTF, neu copiwch y testun isod.

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf atoch i gwyno ynglŷn â’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn eich siopau ar hyd a lled Cymru. Tra bod gennych rhai arwyddion parhaol sydd yn ddwyieithog, yn aml iawn, dyna yw holl gwmpas eich gwasanaeth dwyieithog, ac mae’r fath wasanaeth tocenistaidd yn dangos amarch tuag at eich cwsmeriaid, a’r cymunedau yr ydych yn elwa ohonynt. Pwysaf arnoch i adolygu eich polisi dwyieithrwydd gan sicrhau bod y camau penodol canlynol yn cael eu mabwysiadu ym mhob un o’ch siopau yng Nghymru fel safon sylfaenol:

1. Pob arwydd parhaol yn ddwyieithog.
2. Deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro yn ddwyieithog.
3. Pecynnu cynnyrch eich hunain yn ddwyieithog.
4. Cynlluniau hyfforddiant staff mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach lleol a fydd yn eich galluogi i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid, ac a fydd yn galluogi eich gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy wneud yr uchod gallwch sicrhau bod eich cwmni yn un dwyieithog sydd yn cynnig gwasanaeth teg a chyflawn i’ch cwsmeriaid yng Nghymru. Pwysaf arnoch i roi’r camau hyn ar waith ar fyrder.

Yn Gywir,


Dear Sir / Madam,

I write to complain regarding the lack of Welsh medium services available in your stores throughout Wales. While you display some permanent bilingual signage, that is usually the only bilingual service available. This tokenistic service shows a lack of respect towards your customers and towards the communities that you profit from. I implore you to review your bilingual policy, ensuring that the following steps are taken in every single store across the Wales as a basic standard.

1. Bilingual permanent signs.
2. Bilingual Seasonal marketing leaflets and temporary signage.
3. Bilingual own-brand packaging.
4. Staff training schemes in cooperation with local further education institutions which would enable you to offer a bilingual service to customers, and which would enable workers to work through the medium of Welsh.

Only by implementing the above can you ensure that your company is wholly bilingual and offers a fair and complete service to customers in Wales. Please implement these steps as a matter of urgency.

Sincerely,

Danfonwch eich cwynion at:

WOOLWORTHS
* customer.relations@woolworths.co.uk 
* Woolworths Customer Relations, Woolworths House, Royal Barn Road, Castleton, Rochdale, Lancashire, OL11 3DU

WH SMITH
* customer.relations@whsmith.co.uk
* The Customer Services Team, WH Smith, Greenbridge Road, Swindon, SN3 3LD

19 Mawrth 2008 |

 

Llythyru Boots a Superdrug

Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Booys a Superdrug mewn ffurf RTF, neu copiwch y testun isod.

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf atoch i gwyno ynglŷn â’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn eich siopau ar hyd a lled Cymru. Tra bod gennych rhai arwyddion parhaol sydd yn ddwyieithog, yn aml iawn, dyna yw holl gwmpas eich gwasanaeth dwyieithog, ac mae’r fath wasanaeth tocynistaidd yn dangos amharch tuag at eich cwsmeriaid, a’r cymunedau yr ydych yn elwa ohonynt. Pwysaf arnoch i adolygu eich polisi dwyieithrwydd gan sicrhau bod y camau penodol canlynol yn cael eu mabwysiadu ym mhob un o’ch siopau yng Nghymru fel safon sylfaenol:

1. Pob arwydd parhaol yn ddwyieithog.
2. Deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro yn ddwyieithog.
3. Cyhoeddiadau system sain ddwyieithog.
4. Pecynnu cynnyrch eich hunain yn ddwyieithog.
5. Cynlluniau hyfforddiant staff mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach lleol a fydd yn eich galluogi i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid, ac a fydd yn galluogi eich gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy wneud yr uchod gallwch sicrhau bod eich cwmni yn un dwyieithog sydd yn cynnig gwasanaeth teg a chyflawn i’ch cwsmeriaid yng Nghymru. Pwysaf arnoch i roi’r camau hyn ar waith ar fyrder.

Yn Gywir,


Dear Sir / Madam,

I write to complain regarding the lack of Welsh medium services available in your stores throughout Wales. While you display some permanent bilingual signage, that is usually the only bilingual service available. This tokenistic service shows a lack of respect towards your customers and towards the communities that you profit from. I implore you to review your bilingual policy, ensuring that the following steps are taken in every single store across the Wales as a basic standard.

1. Bilingual permanent signs.
2. Bilingual Seasonal marketing leaflets and temporary signage.
3. Bilingual tannoy announcements.
4. Bilingual own-brand packaging.
5. Staff training schemes in cooperation with local further education institutions which would enable you to offer a bilingual service to customers, and which would enable workers to work through the medium of Welsh.

Only by implementing the above can you ensure that your company is wholly bilingual and offers a fair and complete service to customers in Wales. Please implement these steps as a matter of urgency.

Sincerely,

Danfonwch eich cwynion at:

BOOTS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Boots - (RTF)
* http://www.boots.com/help/BootsStoresServiceComments_contact.jsp  - richard.baker@boots-plc.com
* Boots Customer Care, PO Box 5300, Nottingham, NG90 1AA

SUPERDRUG
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Superdrug - (RTF)
* help@superdrug.com
* Customer Services, 118 Beddington Lane, Croydon, Surrey, CR0 4TB

19 Mawrth 2008 |

 

Fideo o Rali Dathlu'r Gymraeg, Bae Caerdydd, Chwefror 2008

Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror.

14 Mawrth 2008 |

 

Mwy o reswm i beidio...

Archfarchnad MorrisonsHeddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod aelodau marchnata cwmni Morrisons, i ddilyn y cyfarfod a fu rhwng y cwmni ar Gymdeithas yn ôl yn mis Mehefin 2007. Bwriad y cyfarfod oedd asesu'r datblygiadau diweddar yn eu polisi au defnydd o'r iaith Gymraeg.

7 Mawrth 2008 | Mwy...

 

Ymgyrch yn cychwyn yn erbyn cwmniau mawr

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn rali gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y 23ain o Chwefror, mae'r grwp pwyso wedi penderfynu mynd ati i dargedu archfarchnadoedd Tesco a Morrisons yn eu hymgyrch dros ddeddf iaith newydd. Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen targedu'r sector breifat er mwyn dangos pa mor aneffeithiol yw'r ddeddf iaith bresennol, ac er mwyn atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod rhaid cael Deddf Iaith gynhwysfawr, sy'n cynnwys bob sector, pan fyddant yn edrych ar y mater yn hwyrach yn y flwyddyn.

4 Mawrth 2008 | Mwy...

 

Llythyru Tesco a Morissons

Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Tesco a Morrisons mewn ffurf RTF, neu copiwch y testun isod.

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf atoch i gwyno ynglŷn â’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn eich siopau ar hyd a lled Cymru. Tra bod gennych nifer o arwyddion parhaol sydd yn ddwyieithog, yn aml iawn, dyna yw holl gwmpas eich gwasanaeth dwyieithog, ac mae’r fath wasanaeth tocenistig yn dangos amarch at eich cwsmeriaid, a’r cymunedau yr ydych yn elwa ohonynt. Pwysaf arnoch i adolygu eich polisi dwyieithrwydd gan sicrhau bod y camau penodol canlynol yn cael eu mabwysiadu ym mhob un o’ch siopau cenedlaethol fel safon sylfaenol:

1. Pob arwydd parhaol yn ddwyieithog.
2. Deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro yn ddwyieithog.
3. Cyhoeddiadau system sain ddwyieithog.
4. Pecynnu cynnyrch eich hunain yn ddwyieithog.
5. Cynlluniau hyfforddiant staff mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach lleol a fydd yn eich galluogi i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid, ac a fydd yn galluogi eich gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
6. Defnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny’n bosibl

Trwy wneud yr uchod gallwch sicrhau bod eich cwmni yn un dwyieithog sydd yn cynnig gwasanaeth teg a chyflawn i’ch cwsmeriaid yng Nghymru. Pwysaf arnoch i roi’r camau hyn ar waith ar fyrder.

Yn Gywir,

Dear Sir / Madam,

I write to complain regarding the lack of Welsh medium services available in your stores throughout Wales. While you display some permanent bilingual signage, that is usually the only bilingual service available. This tokenistic service shows a lack of respect towards your customers and towards the communities that you profit from. I implore you to review your bilingual policy, ensuring that the following steps are taken in every single store across the nation as a basic standard.

1. Bilingual permanent signs.
2. Bilingual Seasonal marketing leaflets and temporary signage.
3. Bilingual tannoy announcements.
4. Bilingual own-brand packaging.
5. Staff training schemes in cooperation with local further education institutions which would enable you to offer a bilingual service to customers, and which would enable workers to work through the medium of Welsh.
6. Use local produce where possible.

Only by implementing the above can you ensure that your company is wholly bilingual and offers a fair and complete service to customers in Wales. Please implement these steps as a matter of urgency.

Sincerely,

Danfonwch eich cwynion at:

TESCO
* www.tesco.com/help/contact/contactus1.asp - customer.services@tesco.co.uk - terry.leahy@tesco.com
* Tesco Customer Service, PO Box 73, Baird Avenue, Dryburgh Industrial Estate, Dundee, DD1 9NF

MORRISSONS
* angus.maciver@morrisonsplc.co.uk, marc.bolland@morrisonsplc.co.uk, chris.blundell@morrisonsplc.co.uk,
* Customer Service Department, Wm Morrison Supermarkets PLC, Hilmore House, Gain Lane, Bradford, BD3 7DL

3 Mawrth 2008 |

 

Rali Genedlaethol Dathlu'r Gymraeg

Rali Dathlu'r GymraegDaeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.

23 Chwefror 2008 | Mwy...

 

Gig Y Rali: Gwibdaith Hen Fran, Y Phil Bennetts, Clwb Ifor Bach, CAERDYDD

gig-rali-gwibdaith.jpg

23 Chwefror 2008 |

 

Rali Dathlu'r Gymraeg, BAE CAERDYDD

Cynhelir Dydd Sadwrn Chwefror 23 am 11 o'r gloch ym Mae Caerdydd.

posterA4-rali-chwefror07.jpg

Taflen wybodaeth am y Rali (PDF)

Taflen Wybodaeth ddwyieithog (PDF)


mudiadau-dathlur-gymraeg.jpg

Prif alwadau Mudiad Dathlu’r Gymraeg yw:

1. Camau cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau, gan gynnwys:
2. Statws Swyddogol i’r Iaith Gymraeg.
3. Hawliau statudol i bawb o bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.
4. Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
5. Sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i warchod yr hawliau hynny.


Croeso i chi osod y baneri canlynol ar eich gwefan neu flog:

1baner-we-rali-cyig-230208.jpg

baner-we-rali-cyig-230208.jpg

hysbys-ralicyig-230208.jpg

468x60-ralicyig-230208.jpg

raligymraeg40picstal.jpg

23 Chwefror 2008 |

 

Cyhuddo’r Llywodraeth Glymblaid o dorri un o addewidion Cymru’n Un

Rhodri Glyn ThomasMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad yn hallt ar ôl cyhoeddiad y Gweinidog Diwylliant Rhodri Glyn Thomas brynhawn dydd Mawrth mai dim ond £200,000 y flwyddyn am dair blynedd y mae’n barod i’w roi tuag at y wasg Gymraeg, a hynny er gwaethaf addewid eglur yng Nghytundeb Cymru’n Un yn nodi y byddai lefel y gefnogaeth gan y Llywodraeth yn cynnwys cymhorthdal penodol a fyddai’n ddigonol i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.

8 Chwefror 2008 | Mwy...

 

Cydweithio dros y Gymraeg - Cyfarfod Arwyddocaol gyda'r Gweinidog Treftadaeth

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Fore Llun y 4ydd o Chwefror, cafwyd cyfarfod allweddol rhwng cynrychiolaeth o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg â’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.

Croesawyd bodolaeth Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sef grŵp ymbarél o 13 mudiad Cymraeg, gan y Gweinidog.

4 Chwefror 2008 | Mwy...

 

Ymateb i Arolwg Dragon's Eye - Yr Angen am Ddeddfwriaeth Newydd

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Wrth ymateb i ganlyniadau arolwg diweddar gan raglen BBC Dragon's Eye a oedd yn honni bod nifer isel iawn o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y sectorau preifat a chyhoeddus, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod hyn yn brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Maent yn dadlau bod gwasanaethau Cymraeg tocenistig rhai cwmnïau a sefydliadau, fel y rhai a enwir yn yr arolwg, yn golygu ei bod yn aml yn haws i dderbyn y gwasanaethau Saesneg na mynnu gwasanaeth Cymraeg.

31 Ionawr 2008 | Mwy...

 

Lle Canolog i Ddeddf Iaith yn y Cyfarfod Cyffredinol - Beirniadu WRU

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Fe neilltuir lle arbennig i Ddeddf Iaith yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eleni. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth dydd Sadwrn Chwefror 2 rhwng 10am a 3.30pm. Cynhelir gem rygbi rhyngwladol yn Twickenham rhwng Cymru a Lloegr yn syth wedi'r Cyfarfod am 4pm.

30 Ionawr 2008 | Mwy...

 

Dryswch Llywodraeth dros Deddf Iaith Newydd

Rhodri Morgan Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.

Pwyswch yma i weld fideo o'r biced - dailypost.co.uk

11 Ionawr 2008 | Mwy...

 

"Mae'r Gymraeg yn iaith estron" yng Nghymru dywed Focus

Ble mae'r Gymraeg?Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.

9 Ionawr 2008 | Mwy...

 

Diffyg ymateb gan Gyngor Abertawe

Cyngor Saesneg AbertaweMae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.

17 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

PROTEST: Morrisons, Bangor

Protest Morrisons Bangor
2.30pm, Sadwrn Rhagfyr 8

08-12-07-morrisons-bangor.jpg

8 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Herio Morrisons Bangor yn yr Ymgyrch Dros Ddeddf Iaith

Archfarchnad MorrisonsAm 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth. Bu y brotest ym Mangor yn dilyn cyfarfod hanesyddol gynhaliwyd ddydd Mercher diwethaf rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog Treftadaeth. Yn y cyfarfod hwnnw trafodwyd pa egwyddorion ddylid ei gynnwys mewn Deddf iaith Newydd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath.

8 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

Deddfu dros y Gymraeg yng Nghymru - Y Cyfle a'r Cyfrifoldeb

Rhodri Glyn ThomasAm 11 o'r gloch bore heddiw fe wnaeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod a'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas AC yng Nghaerdydd i drafod cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg. Fe wnaeth Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Rhun Emlyn, cadeirydd grwp Deddf Iaith Newydd a Sioned Haf, swyddog ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith gyflwyno neges y Gymdeithas i'r Gweinidog er mwyn sicrhau bod cynlluniau'r Gweinidog ar gyfer deddfwriaeth yn gynhwysfawr ac yn dangos gweledigaeth glir ar gyfer deddfu yn y maes.

5 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

Edrych Ymlaen at Gyfarfod Gyda'r Gweinidog Treftadaeth yn Dilyn Protest yn Aberystwyth

Rhodri Glyn ThomasAm dri chwarter awr heddiw bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu allan i Siop Morrisons yn Aberystwyth. Roedd presenoldeb cryf o'r heddlu yno a daeth y brotest i ben pan gyflwynodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, lythyr i reolwr y siop. Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair protest yn erbyn Morrisons a gynhelir gan y Gymdeithas.

1 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

PROTEST: Morrisons, Aberystwyth

Protest Morrisons Aberystwyth
2.30pm, Sadwrn Rhagfyr 1.

01-12-07-morrisons-aberystwyth.jpg

1 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

PROTEST: Morrisons, Caerfyrddin

Protest Morrisons Caerfyrddin
1pm, Sadwrn Tachwedd 24

24-11-07-morrisons-caerfyrddin.jpg

24 Tachwedd 2007 | Mwy...

 

Arolwg o Morrisons yn dilyn torri addewid

Archfarchnad MorrisonsBydd arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld a siop Morrisons Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24/11/07 am 1pm er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r Gymraeg yn y siop. Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.

21 Tachwedd 2007 | Mwy...

 

24/09/07: Arwyddion Dwyieithog yn Abertawe. Ail gydio yn y brwsh paent?

08/09/07: Cyfarfod Grwp Deddf Iaith

09/08/07: PROTEST Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!, YR WYDDGRUG

09/08/07: Dyw ychydig bach ddim digon da - Her i Tesco a Llywodraeth Cymru

19/07/07: Trafod Deddf Iaith ac Ysgolion Pentrefol yn y Cynulliad

18/07/07: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Ymosod ar Sinigiaeth Aelodau Seneddol Llafur

14/07/07: Arestio cyn-gadeirydd mewn protest ym Mhorthmadog

14/07/07: PROTEST Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!, PORTHMADOG

13/07/07: Targedu Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!

10/07/07: Gwenno'n ôl yn ymgyrchu!

09/07/07: Neges o'r Carchar - Dewch i Porthmadog, Sadwrn 14 Gorffennaf, 2007

09/07/07: Thomas Cook yn dal ganrif ar ei hol hi

09/07/07: Gwenno Teifi yn derbyn 5 niwrnod o garchar

06/07/07: Danfon Gwenno i'r carchar?

02/07/07: Gwrthod canlyniad arolwg y BBC

29/06/07: Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol - Legislative Competence Order

28/06/07: Croesawu Ymrwymiad Clymblaid i'r Gymraeg

27/06/07: Deddf Iaith Ddiwerth - Dim Diolch!

18/06/07: Gwrthdystiad Iaith yn dod i ben

18/06/07: Deddf Iaith Wan - Dim Diolch!

15/06/07: Protestiadau Thomas Cook yn llwyddiant

15/06/07: Protest Thomas Cook Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd

14/06/07: Protest Thomas Cook Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd

12/06/07: Cymdeithas yn parhau gyda Protest Thomas Cook

12/06/07: Rhoi Tridiau i Thomas Cook

11/06/07: Rhaid i Thomas Cook ildio

11/06/07: Trafod â Morrisons + Agwedd warthus Thomas Cook

04/06/07: Mudiadau Cymreig yn cyfarfod i drafod Deddf Iaith

02/06/07: Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg

04/05/07: Llafur wedi'i chwalu yn y Gymru Gymraeg

22/03/07: Cymdeithas yn ymateb i apwyntiad newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg

22/03/07: 59 o esgusodion dros beidio cyflwyno Deddf Iaith

10/03/07: Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 - Welsh Language Measure 2007

23/02/07: Cefnogi Gorymdaith dros Ddeddf Iaith Wyddeleg

16/02/07: Ateb Niwlog Rhodri ar fater Deddf Iaith

07/02/07: Cyflwyno Deiseb Deddf Iaith, CAERDYDD

06/02/07: Dros 10,000 o Gymry yn cefnogi Deddf Iaith Newydd

29/01/07: Alun Pugh yn Gwrthod Cyfarfod

27/01/07: Targedu siop Morrisons ym Mangor

27/01/07: Protest - Deddf Iaith '07, BANGOR

23/01/07: Protest Deddf Iaith Bangor

29/11/06: Lobi: Deddf Iaith Newydd, CAERDYDD

29/11/06: Alun Pugh yn Cytuno i gyfarfod â Chymdeithas yr Iaith i drafod Mesur Iaith

27/11/06: Cyflwyno Drafft Mesur ar y Gymraeg

24/11/06: Cyngor Ceredigion yn cydnabod Saesneg fel iaith swyddogol

14/10/06: Arestio 4 ar ôl protest iaith

14/10/06: Protest Deddf Iaith: Aberystwyth - Ble mae'r Gymraeg?

09/10/06: Morrisons i ystyried troi at y Gymraeg

14/09/06: Lansio deiseb 1af arlein

30/08/06: Dirwy o £200 i Iestyn ap Rhobert

30/08/06: Achos Llys: Debenhams v Iestyn ap Rhobert

26/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Aberteifi

25/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Dolgellau

25/08/06: Deddf Iaith ar daith yn dod i ben

24/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Caernarfon

23/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Pwllheli

22/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Llangefni

21/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Rhuthun

19/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Aberystwyth

18/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Casnewydd

17/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Caerdydd

16/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Pontypridd

15/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Rhydaman

15/08/06: Lawrlwytho'r 'Ddeiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd'

14/08/06: Deddf Iaith ar Daith: Abertawe

11/08/06: Arolwg - Holiadur i gymharu statws y Gymraeg mewn archfarchnadoedd

10/08/06: Deddf Iaith Newydd – Rhaid i’r Llywodraeth ddechrau gwrando!

10/08/06: Rali Brotest - Dy Iaith, Dy Hawl!

09/08/06: Cymdeithas yn hybu trafodaeth bellach trwy gyhoeddi drafft o fesur yr iaith

09/08/06: Cyfarfod Cyhoeddus - Dy Iaith, Dy Hawl!

01/08/06: Aelod arall o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gwell

26/07/06: Strategaeth Bwrdd yr Iaith yn siom enfawr

21/07/06: Cymdeithas yn anghytuno â Llywydd y Cynulliad

20/07/06: Llythyru Aelodau Ewropeaidd

11/07/06: Cymdeithas yn croesawu galwadau'r gwrthbleidiau

10/06/06: Uchafbwyntiau Gwyl Fawr Deddf Iaith Newydd

10/06/06: Gwyl Fawr: Deddf Iaith Newydd - Dyma'r Cyfle!

10/06/06: Galw ar wrthbleidiau'r Cynulliad i uno mewn ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd

09/06/06: Cymdeithas yr Iaith yn tynnu arwydd datblygiad mawr Saesneg Debenhams

08/06/06: Cymdeithas yr Iaith a'r Toriaid yn trafod Deddf Iaith Newydd

06/06/06: Barnwr i gwyno wrth yr heddlu am fod gwys yn uniaith Saesneg

05/06/06: Anrhydeddu Eileen Beasley yng ngwyl fawr Cymdeithas yr Iaith

31/05/06: Lansio Deiseb yn galw am Ddeddf Iaith Newydd

27/05/06: Codi baner Deddf Iaith ar bontydd

24/05/06: Ymateb Bwrdd yr Iaith - Dilysrwydd pellach i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd

22/05/06: Anrhydeddu Eileen Beasley

17/05/06: Aelodau yn holi Alun Pugh yn y Fforwm Iaith

10/05/06: Arestio 2, 11 yn derbyn dirwy yn y man a'r lle

04/05/06: Arestio 9 aelod ar ol protest gadwyno

10/04/06: Protest Siop 'Blacks', Betws y Coed

06/04/06: Hen bryd i Alun Pugh agor ei lygaid

03/04/06: Cymdeithas Peldroed Cymru - Dal i weithredu'r Welsh-Not

30/03/06: Agwedd hiliol siop 'Blacks'

25/03/06: Cefnogaeth o bob cyfeiriad i Ddeddf Iaith Newydd

25/03/06: Deddf Iaith yn gwneud gwahaniaeth: Profiad Catalonia, Alexia Bos Solé, Aberystwyth

23/03/06: Deddf Iaith - Dysgu o brofiadau Catalonia

22/03/06: Cyflwyniad "Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal?"

22/03/06: Cymdeithas a chyrff cydraddoldeb yn lobio Aelodau'r Cynulliad

22/03/06: Lobi: Y Gymraeg - Hawliau Cyfartal?

01/03/06: Cymdeithas yr Iaith yn ymuno mewn protest ar ddiwrnod agor y 'Senedd'

01/03/06: Erthygl Big Issue: Does Wales need a new Welsh language act, Mawrth 2006

01/03/06: Gwrthdystiad: Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle!, Caerdydd

27/02/06: Dathlu agoriad y 'Senedd' drwy ddadorchuddio bilfwrdd yn galw am Ddeddf Iaith

27/02/06: Dadorchuddiad Bilfwrdd, Bae Caerdydd

21/02/06: Carcharor a Phrif Weinidog wyneb yn wyneb

16/02/06: Carcharor yn Rhydd – ond yr ymgyrch yn parhau!

15/02/06: Gwenno yn cyrraedd Aberystwyth ar ol cyfnod yn y carchar

14/02/06: Ympryd i gefnogi carcharor

13/02/06: Her at y Prif Weinidog

27/01/06: Dirwy drom i aelod arall o'r Gymdeithas

27/01/06: ACHOS LLYS, Deddf Iaith Newydd, CAERDYDD

25/01/06: Cyfarfod Llwyddiannus yng Nghanolfan y Mileniwm

24/01/06: CYFARFOD CYHOEDDUS: Deddf Iaith, Canolfan y Mileniwm

23/01/06: Alun Pugh yn gwrthod mynychu cyfarfod tyngedfennol i drafod dyfodol y Gymraeg.

20/01/06: Cymdeithas yn llongyfarch Ynadon Caerdydd

20/01/06: ACHOS LLYS, Deddf Iaith Newydd, Caerdydd

19/01/06: Datganiad Bwrdd yr Iaith yn fuddugoliaeth i'r Gymdeithas

16/01/06: Ymyrraeth Bwrdd yr Iaith yn profi'r angen am Ddeddf Iaith Newydd

09/01/06: Meddiannu Llys Caerfyrddin

02/01/06: RALI'R CALAN, Deddf Iaith, Caerdydd

02/01/06: Dros 200 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd!

02/01/06: 2006 - Blwyddyn Deddf Iaith

04/12/05: Datgan diwedd swyddogol i gyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith

03/12/05: Deddf Iaith Newydd: Rali ac yr 16eg aelod i weithredu

03/12/05: RALI BROTEST: Deddf Iaith, Caerfyrddin

02/12/05: Deddf Iaith Newydd: Gwleidyddion yn cefnogi Galwad Cymdeithas yr Iaith

01/12/05: ACHOS LLYS, Deddf Iaith Newydd, CAERDYDD

29/11/05: Cymreigio Morrisons

23/11/05: 1 - 0 i Gymdeithas yr Iaith

23/11/05: AC i gefnogi aelodau yn y Llys

22/11/05: Lansio Cyfres Achosion Llys

15/11/05: Arestio dwy dros Ddeddf Iaith Newydd

11/11/05: Y 12fed aelod o Gymdeithas yr iaith wedi ei arestio

03/11/05: Wynebu achos Llys am wrthod llofnodi ffurflen Saesneg

01/11/05: Deddf Iaith Newydd i’r Gymraeg - Cynigion ar gyfer Deddf Iaith Newydd

31/10/05: Merch o’r Barri yn Herio’r Llywodraeth ar Fater Deddf Iaith

29/10/05: Mae'n amser gwrando, Mr Pugh.

28/10/05: Targedu Siopau a chwmniau yn yr ymgyrch Deddf Iaith Newydd

24/10/05: Dirwy a chostau o dros £1,000 i'r Cadeirydd

21/10/05: Cadeirydd o flaen y Llys yng Nghaernarfon

20/10/05: Rhaid trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd

18/10/05: Arestio 2 aelod arall yng Nghaerdydd

13/10/05: Gweithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith newydd

01/10/05: Recordiad Byw Rali Deddf Iaith

01/10/05: RALI: Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle, Caerdydd

01/10/05: Mwy o weithredu uniongyrchol - Deddf Iaith Newydd

30/09/05: Amlinellu mesur iaith i'w gyflwyno i'r senedd

22/09/05: Arestio 6 o aelodau'r Gymdeithas yn Parc Cathays

20/09/05: Deddf Iaith - Cyhoeddiad Pwysig!

19/08/05: Cer nawr Rhodri! Galwad am Ddeddf Iaith gynhwysfawr.

03/08/05: Arestio Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

02/08/05: Protest i roi’r angen am Ddeddf Iaith ar ben yr agenda wleidyddol.

15/07/05: Targedu arwyddion ffyrdd Clwyd!

14/07/05: Cyngor yn galw am roi'r gorau i ddifwyno arwyddion!

12/07/05: Llusgio wyth protestiwr iaith o'r Cynulliad Cenedlaethol

20/06/05: Galw ar roi blaenoriaeth i Ddeddf Iaith

05/06/05: Deddf Iaith Newydd - Dyma'r Cyfle: Papur Trafod Ymgynghorol Mehefin 2005

01/06/05: Enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn cymryd rhan mewn cyfarfod pwysig ar ddyfodol yr Iaith!

01/06/05: Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle!

27/05/05: Targedu siopau Aberteifi, Trallwng ac Aberystwyth yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith

19/04/05: Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

13/04/05: Cwrdd â'r gwrthbleidiau!

13/04/05: Alun Pugh - "Dim Deddf"

13/