|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
11 Awst 2008
| Mwy...
|
|
1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.
Mynd â’r alwad dros ‘Hawl i Rentu’ at Uned Llywodraeth y Cynulliad lle’r codir Ty Unos.
Mae’n ffasiynol iawn i’r holl bleidiau gwleidyddol son am “dai fforddiadwy” y dyddiau hyn. Mae datblygwyr yn cael caniatad i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai “fforddiadwy” yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai “fforddiadwy”.
Un ateb tuag at sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Symud tuag at sefydlu “Hawl i Rentu” i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o “Hawl i Brynu”. Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch!
• Oherwydd anhawster cael morgais, dyma unig gyfle llawer i gael cartre yn eu cymuned
• Mae prisiau tai’n disgyn, felly mae’n fwy ymarferol i Gynghorau brynu tai ar werth a’u rhentu i bobl leol.
• Rhaid fod y tai ar rent yn y mannau iawn yn ein cymunedau – nid mewn stadau canolog yn unig.
• Rhaid fod y tai o’r mathau sy eisiau – yn cynnwys unedau ar gyfer pobl ifainc.
• Rhaid wrth system deg i osod tai i bobl leol
• Gall trefniadau rhan-berchnogaeth fod yn rhan o’r cynllun “Hawl i Rentu”
Nid dyma’r holl ateb i broblem sicrhau cartrefi yn ein cymunedau, ond bydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau ac ar gyfer pobl ifainc sy’n ceisio penderfynu a oes dyfodol iddynt yn eu cymunedau.
Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch – dewch i weld yr arddangosfa yn uned y Gymdeithas ar faes y Steddfod, a dewch i orymdeithio gyda ni i fynd a’r alwad at Lywodraeth y Cynulliad!
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Gweithdy Cymunedau Rhydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrch Hawl i Rentu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio yn yr eisteddfod. Bydd yn ymgyrch weithredol er mwyn sicrhau bod un cyfran o’n polisiau ni i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg yn cael ei weithredu. Mae’n gofyn am weithgarwch gan aelodau o bob ardal o Gymru, felly dewch draw i’r uned i glywed am y cynlluniau, i drafod ac i ddysgu am ein polisiau.
8 Awst 2008
|
|
|
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
8 Awst 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
"Mae'n dda gennym weld cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynnig darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai, er nad oes llawer o fanylion wedi eu cyhoeddi ganddynt ar sut maent yn bwriadu diogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghymru, sef ail elfen y cydweithio."
24 Gorffennaf 2008
| Mwy...
|
|
Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisďau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisďau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol. Ei ail bwrpas yw gosod her syml a diamwys wrth ddrws llywodraeth glymbleidiol bresennol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru – cyflwynwch ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac effeithiol ar yr iaith Gymraeg fel cam cyntaf tuag at ddangos bod y sefyllfa yma ar newid.
Dogfen: O ddifrif am y Gymraeg? - Yr her i'r Llywodraeth (pdf - 444kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.
We have now seen ten years of devolution in Wales, and have experience of various administrations at some point including the Labour party, the Liberal Democrats and Plaid Cymru. The past ten years have also seen a number of policies relating to the Welsh language. This pamphlet’s first purpose is to show that none of these policies, from Iaith Pawb to the current position of the One Wales coalition, have been serious about safeguarding the future of the Welsh language, either due to ideological failings or practical failings. Its second purpose is to set the current Labour-Plaid coalition a clear challenge – to introduce comprehensive and effective legislation on the Welsh language as a first step to showing that this situation is about to change.
Dogfen: Serious about Welsh? - The Challenge for Government (pdf - 587kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.
30 Mai 2008
|
|
|

After receiving a knock back on their previous application for 50
houses in Pont-Tyweli, Llandysul, as it was decided by the council
planning authority that such a development would damage the local
community, the developers - Eatonfield Group, have now resubmitted an
application which Cymdeithas yr Iaith claim is an attempt to con the
council into giving them what they wanted.
8 Mai 2008
| Mwy...
|
|

Mae cwmni datblygu Eatonfield wedi ail gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gár wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Cyngor, oherwydd y niwed fyddai'n gwneud i'r gymuned leol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hon yn ymgais i dwyllo'r Cyngor er mwyn i'r datblygwyr gael eu ffordd eu hunain.
8 Mai 2008
| Mwy...
|
|
Tra'n cefnogi cynnig Llywodraeth y Cynulliad i hybu awdurdodau lleol i brynu tai a'i rhentu yn ôl i berchnogion tai â phroblemau ad-dalu morgeisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu'r syniad a sefydlu polisi 'hawl i rentu'.
21 Ebrill 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clęr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clęr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.
18 Mawrth 2008
| Mwy...
|
|
Cafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.
Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.
24 Ionawr 2008
| Mwy...
|
|
Mae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.
20 Rhagfyr 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.
29 Tachwedd 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi atgoffa Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr y byddant yn trafod y datblygiad tai arfaethedig yn Waungilwen, Drefach Felindre gyda thudalen wag. Apeliodd y Gymdeithas at y cyfarfod pwyllgor a gynhelir ddydd Iau Medi 27ain am 10.30 yn swyddfeydd y Cyngor, i sicrhau fod y broses gynllunio yn cynnal cymunedau hyfyw yn hytrach na chael ei defnyddio fel trwydded i argraffu arian ar gyfer datblygwyr.
21 Medi 2007
| Mwy...
|
|
Bydd Swyddogion Cynllunio Cyngor Sir Gar heddiw'n argymell bod y Pwyllgor Datblygu (sy'n cyfarfod am 10.30am Iau 30 Awst yn Neuadd y Sir) yn cymeradwyo cais cynllunio i godi 52 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd, a thrwy hynny'n dyblu maint y pentref.
30 Awst 2007
| Mwy...
|
|
Cyfarfod Deddf Eiddo -‘Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan’
Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas
3pm, 06/08/07, Pabell Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod

6 Awst 2007
|
|
|
Bydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.
28 Mehefin 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir
Gâr, i derfynu'r broses o ganiatau i gwmniau datblygu fynd ati eu hunain i baratoi'r Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg.
17 Mai 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.
4 Mai 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi hysbysu pobl Pont-Tyweli fod y cais am 50 o dai ym Mhont-Tyweli, gan Eatonfield group, wedi ei ail-gyflwyno i'r Cyngor. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2006 ond fe dynnwyd y cais yn ol ym mis Ionawr 2007.
5 Ebrill 2007
| Mwy...
|
|
Dywedwyd wrth Gymdeithas yr Iaith heddiw bod y cais cynllunio a gynigwyd am 50 o dai ym mhentref bychain Pont-Tyweli wedi'i dynnu yn ei ol.
30 Ionawr 2007
| Mwy...
|
|
Wedi'r ymgynghori gyda'r datblygwyr 'Eatonfield Group'a Chyngor Sir Gâr, datgelodd Cymdeithas yr Iaith y gallai fod dechrau ar y broses o adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli yn nyffryn teifi mor glou â'r Pasg nesaf.
7 Medi 2006
| Mwy...
|
|
Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datblygiad arfaethiedig o ddeuddeg aneddle newydd ar safle'r Wern ym Mhenmorfa, ger Porthmadog, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn perthynas a phenderfyniadau ym maes cynllunio.
24 Mai 2006
| Mwy...
|
|
Danfonodd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas Yr Iaith lythyr at Carwyn Jones, Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth y Cynulliad, heddiw gan son am eu pryder ynglyn â chasgliadau'r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion.
8 Mawrth 2006
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’n hallt gasgliadau’r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion. Yn nhyb y mudiad, mae canfyddiadau’r arolygwyr – Mr Alwyn Nixon a Ms Stephanie Chivers – yn dangos fod yna anallu sylfaenol o fewn y drefn gynllunio bresennol i ymdrin yn effeithiol ag anghenion yr iaith Gymraeg.
23 Chwefror 2006
| Mwy...
|
|
Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
2 Tachwedd 2005
| Mwy...
|
Cyflwyno'r ddeiseb dros Ddeddf Eiddo i Lywodraeth y Cynulliad
1 o'r gloch
Dydd Mercher Tachwedd 2il
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dewch draw i gefnogi!
Ychydig ddyddiau wedi'r rali yng Nghaernarfon, bydd y ddeiseb dros Ddeddf Eiddo yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad.
Bydd y cyflwyniad yn un amserol iawn gan ei fod yn digwydd ar yr un diwrnod ag y cynhelir trafodaeth ar dai fforddadwy ym mhrif siambr y Cynulliad.
Wrth gyflwyno'r ddeiseb, bydd Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio i'r Llywodraeth mai dyma ein cyfle ymarferol olaf i sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg.
Os bydd y tueddiadau presenol yn parhau, ni fydd yr un gymuned Gymraeg ar ol erbyn y flwyddyn 2020. Er mwyn ymateb i'r her, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyflwyno Deddf Eiddo - mesur a fyddai'n sicrhau tai i bobl ifanc yn eu cymunedau lleol.
Mae'n bwysig fod nifer o gymunedau o bob rhan o Gymru yn bresennol wrth gyflwyno'r ddeiseb er mwyn atgyfnerthu'r neges. Beth am ddod i Gaerdydd er mwyn sicrhau bod eich cymuned chi yn cael ei chynrychiolu?
Am fwy o fanylion ffoniwch swyddfa'r Gymdeithas ar (01970) 624501 neu ebostiwch Huw Lewis huw[at]cymdeithas[dot]com
2 Tachwedd 2005
|
|
|

2pm – Dydd Sadwrn – Hydref 29ain
Y Maes, Caernarfon
Siaradwyr - Richard Parry Huws, Angharad Tomos, Huw Lewis
Deddf Eiddo i Gymru!
29 Hydref 2005
| Mwy...
|
|
Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
29 Hydref 2005
| Mwy...
|
|

Mae recordiad byw o Rali Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar y Maes yng Nghaernarfon ar 29ain o Dachwedd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.
Mae'n dechrau gyda'r siaradwyr (Huw Lewis, Richard Parry Hughes, Angharad Tomos), ac wedyn rhai o ganeuon gan Mim Twm Llai yn chwarae'n fyw ar y Maes, gan gynnwys un cân newydd sbon sydd heb ei pherfformio o'r blaen!
Pwyswch yma i wrando (mp3 - 40MB)
29 Hydref 2005
|
|
|
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch prynhawn yma (Mercher 3/8/05), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn tynnu sylw at enghraifft arall o agwedd ddi-hid Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Y pwnc trafod y tro hwn fydd yr argyfwng tai, sydd yn tanseilio rhagolygon cymaint o gymunedau ledled y wlad.
3 Awst 2005
| Mwy...
|
|
Rhoddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1 allan o 6 i lywodraeth y Cynulliad am y mesurau gyhoeddwyd ganddynt heddiw a fydd, fe obeithir, yn sicrhau mwy o dai fforddiadwy.
11 Gorffennaf 2005
| Mwy...
|
|
Dydd Mercher yma (Gorffennaf 6), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal lobi dros Ddeddf Eiddo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd y mudiad yn ceisio hybu trafodaeth ar gynnwys ei dogfen Deddf Eiddo – dogfen bolisi sy’n ceisio cynnig atebion i’r problemau tai difrifol sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau led led Cymru.
4 Gorffennaf 2005
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch Cynghorwyr Gwynedd am gwrthod y cynllun i ehangu marina Pwllheli.
30 Mehefin 2005
| Mwy...
|
|
Rydym yn gobeithio casglu degau o filoedd o enwau ar y ddeiseb Deddf Eiddo, ond mae angen eich help!
Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i warchod ein cymunedau Cymraeg trwy gefnogi’r alwad am Ddeddf Eiddo i Gymru; mesur a fyddai yn sicrhau bod:
• Mynediad pobl leol i’r stoc bresennol o dai yn cael ei hyrwyddo a’i sicrhau
• bod prisiau tai ac eiddo yn adlewyrchu’r farchnad leol
• bod y gyfundrefn gynllunio yn diogelu ac yn gwasanaethu cymunedau
Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddeiseb Deddf Eiddo (pdf)
Dychweler unrhyw ddeisebion sydd wedi'u llenwi erbyn Hydref 1, 2005 i: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Llawr Gwaelod, Pen Roc, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ
12 Mehefin 2005
|
|
|
Fe ddaeth 200 o bobl i Rali a gynhaliwyd heddiw ar lan Llyn Celyn ger y Bala. Rhybuddiodd Siaradwyr yn ystod y Rali mai dyma yw ein cyfle ymarferol olaf i gynnal cymunedau Cymraeg hyfyw. Nodwyd os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020.
11 Mehefin 2005
| Mwy...
|
|

11 Mehefin 2005
|
|
|
12pm – Sadwrn, Mehefin 11
Wrth y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn
Siaradwyr – Elfyn Llwyd A.S, Huw Lewis.

Pwysa yma i lawrlwytho'r Poster uchod (pdf)
Yn dilyn y Daith Deddf Eiddo (Mehefin 4 – 10), bydd yr wythnos o ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo yn cyrraedd ei benllanw, gyda’r rali ar lan Llyn Celyn. O bosib, hanes boddi Cwm Celyn, ger y Bala, yw’r enghraifft enwocaf o gymuned leol Gymraeg yn colli’r hawl i reoli ei dyfodol ei hun. Erbyn heddiw, mae ein cymunedau yn cael eu bygwth gan rym o fath gwahanol – grym anweladwy y farchnad dai.
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo.
Dewch gyda ni!
Colli Capel Celyn – Colli’n Cymunedau Cymraeg!
Pwysa yma i ddarllen mwy am Ddeddf Eiddo
11 Mehefin 2005
|
|
|
Dros yr wythnos nesaf, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau gyda'r daith drwy Gymru i ledaenu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r angen am Ddeddf Eiddo.
5 Mehefin 2005
| Mwy...
|
|
Rhwng y 4ydd a’r 11eg o Fehefin, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd a’r alwad am Ddeddf Eiddo ar daith drwy Gymru.
4 Mehefin 2005
| Mwy...
|
|
Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.
18 Mai 2005
| Mwy...
|
|
Mae bellach yn dair mlynedd ar ddeg ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr Deddf Eiddo. Amserol felly yw adolygu, diwygio a diweddaru’r llawlyfr gwreiddiol yn sgil y datblygiadau a welwyd yn ystod y 1990au ac ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif newydd ym maes tai a chynllunio...
Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF:
Lawrlwytho'r ddogfen yn Gymraeg (530KB)
Download Document in English (574KB)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.
17 Mai 2005
|
|
|
Mewn cyfarfod bore yma gydag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Ceredigion, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu galwad am sefydlu gweithgor arbennig er mwyn cynnal arolwg brys o sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngheredigion.
1 Ebrill 2005
| Mwy...
|
|
Am 11am bore yma (Llun 28.3.05), dringodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben twr uchaf Castell Caernarfon, gan arddangos baner enfawr a oedd yn datgan ‘Deddf Eiddo – Tai i bobl leol’.
28 Mawrth 2005
| Mwy...
|
|
Ar drothwy yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan pryder ynglyn â lle yr iaith Gymraeg o fewn y broses.
17 Ionawr 2005
| Mwy...
|
|

Ar ddechrau 2005, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cychwyn ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru. Bwriad y rali a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr y 3ydd yw i lawnsio’r ymgyrch hon.
Methiant y Llywodraeth
Bu llawer o son yn ddiweddar ynglyn a'r problemau tai difrifol sydd yn peryglu dyfodol ein cymunedau ar iaith Gymraeg. Gwelwyd bod:
- prisiau tai yn codi ymhell allan o gyrraedd pobl leol
- bod datblygiadau o dai ddim yn adlewyrchu'r angen lleol
- bod diffyg difrifol o dai ar rent i drigolion lleol
3 Ionawr 2005
| Mwy...
|
|
Fe ymgasglodd dros 200 o bobl heddiw ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo. Bu adloniant byw ar y Maes cyn i bawb orymdeithio draw i Swyddfeydd y Cynulliad yn y dref, lle cafodd Proclemasiwn gan y Gymdeithas ei godi ar furiau'r Swyddfeydd.
3 Ionawr 2005
| Mwy...
|
|
Yn ystod ei Rali Calan – a gynhelir yfory am 2pm ar y Maes yng Nghaernarfon – bydd Cymdeithas yr Iaith yn condemnio’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
2 Ionawr 2005
| Mwy...
|
|
Ar drothwy Rali Calan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr 3ydd, er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai a’r angen am Ddeddf Eiddo – mae ymchwil brys gan y mudiad, wedi dangos nad oes yr un tŷ ar werth gan arwerthwyr tai yng Nghaernarfon, am bris is na Ł60,000.
31 Rhagfyr 2004
| Mwy...
|
|
Yn dilyn methiant Llywodraeth y Cynulliad heddiw i glustnodi unrhyw gyllid sylweddol ar gyfer datrys y broblem dai yn ei cymunedau Cymraeg, mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhoeddi heddiw newid cyfeiriad radicalaidd yn ei hymgyrch dros ddyfodol y cymunedau hynny.
2 Tachwedd 2004
| Mwy...
|
|
Neithiwr (Sul 24/10/04), peintiwyd y slogan – ‘Cymorth Prynu - Ł5 miliwn’ – gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar furiau swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth.
25 Hydref 2004
| Mwy...
|