tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Clwyd

Fforwm Clwyd, YR WYDDGRUG

FFORWM CLWYD
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1pm, Dydd Sadwrn, Gorffennaf, 26ain
Clwb Rygbi'r Wyddgrug

fforwm-clwyd.jpg

26 Gorffennaf 2008 |

 

SWYDD: Swyddog Maes y Gogledd

Mae angen unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus i arwain a chyd-lynu gwaith lobio ac ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru. Lleolir y Swyddfa yng Nghaernarfon. Mae trwydded yrru yn hanfodol i'r swydd yma.

22 Medi 2007 | Mwy...

 

Cyfarfod Rhanbarth Clwyd

Nos Fawrth, 28ain Awst, 7.30pm,
Tafarn y Masons, Dinbych

28 Awst 2007 |

 

PROTEST Coleg Cymraeg, EISTEDDFOD GEN

Coleg Cymraeg: Taclo'r broblem!
3pm, 10/08/07, Uned Cymdeithas yr Iaith, Maes yr Eisteddfod

digwyddiadau-cyig-stedd07.jpg

10 Awst 2007 |

 

PROTEST Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!, YR WYDDGRUG

Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!

2pm, 09/08/07, tu allan i Tesco yr Wyddgrug
Gorymdaith i faes yr Eisteddfod
2.45pm, Uned Cymdeithas yr Iaith, Maes yr Eisteddfod

Deddf Iaith ddiwerth - dim diolch!

digwyddiadau-cyig-stedd07.jpg

9 Awst 2007 |

 

CYFARFOD: Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan, EISTEDDFOD GEN

Cyfarfod Deddf Eiddo -‘Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan’
Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas
3pm, 06/08/07, Pabell Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod

digwyddiadau-cyig-stedd07.jpg

6 Awst 2007 |

 

Tocynnau Gŵyl Grug 2007 ar Werth Rwan!

Gigs Steddfod yr WyddgrugAeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.

30 Mehefin 2007 | Mwy...

 

Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007

Gigs Steddfod yr WyddgrugRadio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a’r Band, Brigyn…. Dim ond rai o’r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni. Bydd ‘Adloniant Tafod’ yn cael ei gynnal eleni ar dir Clwb Rygbi'r Wyddgrug sydd wedi ei leoli yng nghanol tref prifwyl 2007.

20 Mai 2007 | Mwy...

 

GIG: Cowbois, Yucatan, Mr Huw, DINBYCH

Taith Tafod 2 - Clwb Rygbi Dinbych
Nos Iau, 12fed Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.org

tt_dinbych.jpg

Pwyswch yma i ddarllen mwy am gigs Taith Tafod 2

12 Ebrill 2007 |

 

Llywodraeth y Cynulliad ar fin chwyldroi addysg uwch Cymraeg?

Protest Coleg FfederalAm 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.

2 Mehefin 2006 | Mwy...

 

Lansio Deiseb yn galw am Ddeddf Iaith Newydd

Ble mae'r Gymraeg?Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.

31 Mai 2006 | Mwy...

 

Amddifadu plant o addysg Gymraeg.

Howells Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.

2 Medi 2005 | Mwy...

 

Targedu arwyddion ffyrdd Clwyd!

deddf_iaith_newydd.gif Ar nos Iau, y 14eg o Orffennaf aeth aelodau o Gymdeithas-yr-iaith o Ddyffryn a Gorllewin Clwyd ati gydag ymgyrch sticeri. Bu'r aelodau yn rhoi sticeri 'Ildiwch' a 'Ble mae'r Gymraeg?' ar arwyddion Give Way. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros yr haf i danlinellu'r angen am Ddeddf Iaith gynhwysfawr a fyddai'n ateb anghenion Cymru yn yr Unfed Ganrif Ar Hugain.

15 Gorffennaf 2005 | Mwy...

 

Llongyfarchiadau Sir Ddinbych

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi rhoi heibio am y tro eu cynlluniau i gau llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, ac i ymgynghori yn hytrach gyda'r cymunedau lleol.

22 Chwefror 2005 | Mwy...

 

Galw am resymoli cadarnhaol yn Sir Ddinbych

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.

20 Chwefror 2005 | Mwy...

 

Lansio cyfnod o ymgyrchu gweithredol i osod 'Deddf Iaith Newydd' ar yr agenda.

deddf_iaith_newydd.gif Neithiwr (nos Wener 24/9/04), yn nhref y Fflint, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

25 Medi 2004 | Mwy...

 

Protest llwyddiannus yn dod i ben gydag addewid am ragor o arian i'r farchnad dai

adeiladau_cynulliad_llandrillo.JPG Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.

8 Gorffennaf 2004 | Mwy...

 

Protestio ar y to er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

deddf_eiddo.gif Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.

8 Gorffennaf 2004 | Mwy...

 

Newyddion
SWYDD: Swyddog Maes y Gogledd
22 Medi, 2007
Tocynnau Gŵyl Grug 2007 ar Werth Rwan!
30 Mehefin, 2007
Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007
20 Mai, 2007
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rhagor...

nôl i'r brig