|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
20 Tachwedd 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
20 Tachwedd 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
19 Tachwedd 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"
23 Hydref 2008
| Mwy...
|
|
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth bore dydd Sadwrn Hydref 25 bydd Hywel Griffiths sydd wedi bod yn gadeirydd y Gymdeithas ers Mis Mawrth 2007 yn rhoi'r gorau i'w swydd, ac fe etholir Menna Machreth, sy'n sefyll yn ddiwrthwynebiad i gymryd ei le.
21 Hydref 2008
| Mwy...
|
|
Mae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.
21 Hydref 2008
| Mwy...
|
|

Carafan yn cyflwyno:
Eitha Tal Ffranco
Yr Ods
Offbeats
Nos Wener 17eg o Hydref
Clwb Athletau, Caerfyrddin (tu ol i'r hen Tesco)
8pm Ł5
Cymdeithas yr Iaith
Carafan = enw newydd gigs misol y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin.
Gan y bydd y gigs yn teithio i wahanol leoliadau o amgylch Caerfyrddin, roedd y Gymdeithas yn awyddus i gael enw a oedd yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni am gefnogi nifer o leoliadau. Ac wrth gwrs, mae pawb yn cysylltu carafan gyda'r haf yn draddodiadol, a gwyliau cerddorol. Wel, yng Nghaerfyrddin gall fod yn haf o hyd, gyda gigs Carafan yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
17 Hydref 2008
|
|
|
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
16 Hydref 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".
8 Hydref 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
11 Awst 2008
| Mwy...
|
|

Taith Tafod 2008
Cymdeithas yr Iaith
Derwyddon Dr Gonzo
Amheus
Meibion Ffred
DJ Matta
3 Eog (Salmwn), Caerfyrddin
Nos Wener 11/7/08
8pm
Ł5 wrth y drws
11 Gorffennaf 2008
|
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers. Derbyniodd rhieni rybudd o 3 wythnos y gall eu safleoedd ysgol gau ar ddiwedd y tymor.
10 Gorffennaf 2008
| Mwy...
|
|
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
18 Mehefin 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn mis i’r Etholiad.
9 Mehefin 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.
5 Mehefin 2008
| Mwy...
|
|

Mae cwmni datblygu Eatonfield wedi ail gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gár wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Cyngor, oherwydd y niwed fyddai'n gwneud i'r gymuned leol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hon yn ymgais i dwyllo'r Cyngor er mwyn i'r datblygwyr gael eu ffordd eu hunain.
8 Mai 2008
| Mwy...
|
|
Yn wyneb y canlyniadau etholiadol ysgubol yn Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor Sir newydd i roi heibio ei gynllun dadleuol i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
Dywed cadeirydd y Gymdeithas yn y sir, Sioned Elin:
"Dyma'r etholiad sirol cyntaf ers cyhoeddi'r Cynllun Moderneiddio Addysg yn Sir Gar yn 2005 a'r cyfle cyntaf i etholwyr fynegi eu barn.Yn y maes yma, ac mewn llu o feysydd eraill, mae'n amlwg fod yr etholwyr wedi penderfynu fod y Cyngor wedi anwybyddu barn y bobl mewn modd trahaus iawn. Byddwn yn galw ar y Cyngor newydd i roi heibio'r cynllun hwn i fygwth ein hysgolion a'n cymunedau Cymraeg ac i drafod yn onest gyda phobl leol y ffordd ymlaen. Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc yn Sir Gar fel ag mewn ardaloedd eraill o Gymru,"
2 Mai 2008
|
|
|

Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y
Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd
aelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydaman
prynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith
yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan
ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.
24 Ebrill 2008
| Mwy...
|
|

Gigs 3 Eog, Cymdeithas yr Iaith
Cowbois Rh B
Eusebio
Ocsimoronig
Angen
(a gobitho DJ Matta)
Tafarn 3 Eog, Caerfyrddin
Nos Wener 18ed o Ebrill
8pm a Ł5 wrth y drws
18 Ebrill 2008
|
|
|

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.
10 Ebrill 2008
| Mwy...
|
|
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth a Ebrill.
26 Mawrth 2008
| Mwy...
|
|

21 Mawrth 2008
|
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clęr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clęr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.
18 Mawrth 2008
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.
28 Chwefror 2008
| Mwy...
|
|

Brigyn
Einir Dafydd
Meibion Ffred
DJ Matta
8pm, Nos Wener 15ed o Chwefror
(Penwythnos Steddfod Rhyngol - Y Drindod)
Tafarn y 3 Eog, Caerfyrddin
Ł6 wrth y drws
15 Chwefror 2008
|
|
|

Ffilm ddogfen gan Lleucu Meinir yn dangos effaith cau ysgol bentrefol ar y disgyblion, yr athrawon a'r gymuned. Bu Lleucu yn ffilmio yn ystod wythnos olaf Ysgol Gynradd Mynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2007.
9 Chwefror 2008
| Mwy...
|
|
Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.
9 Ionawr 2008
| Mwy...
|
|

Swci Boscawen, Iglw, Ocsimoronig
8pm , Rhagfyr 27ain, Ł5
3 Eog, CAERFYRDDIN
Lawrlwytho Poster (pdf)
27 Rhagfyr 2007
|
|
|
Mae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.
20 Rhagfyr 2007
| Mwy...
|
|
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll o flaen adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin bore fory (Llun 10/12)am 9.30am i ddangos eu cefnogaeth i frwydr cymuned Llanarthne dros gadw eu hysgol.
Unwaith eto mae'r Cyngor Sir wedi dangos eu hawydd i wthio eu hagenda drwodd mor gyflym a phosibl heb ystyried barn nac anghenion y gymuned. Mae'r rhieni a llywodraethwyr wedi gofyn am fis ychwanegol er mwyn trafod gyda ysgolion cyfagos y posibiliad o gydweithio mewn ffederasiwn. Gwrthodwyd hyn gan y Cyngor Sir gan lynu yn haeaernaidd at y 4 wythnos yn unig a ganiatawyd i'r gymuned.
9 Rhagfyr 2007
|
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.
29 Tachwedd 2007
| Mwy...
|
|
Protest Morrisons Caerfyrddin
1pm, Sadwrn Tachwedd 24

24 Tachwedd 2007
| Mwy...
|
|
Derwyddon Dr Gonzo, Amlder, Amheus, BSS
Nos Wener 23/11/07, 8pm, Ł5
Tafarn y 3 Eog, Caerfyrddin
2il yn y gyfres o gigs y 3 Eog - Cymdeithas yr Iaith

23 Tachwedd 2007
|
|
|
Bydd arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld a siop Morrisons Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24/11/07 am 1pm er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r Gymraeg yn y siop. Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.
21 Tachwedd 2007
| Mwy...
|
|
Ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr y Gymdeithas wedi talu teyrnged i Ray Gravell. Dywedodd Sioned Elin:
"Roedd Ray Gravell yn gadarn yn ei ymrwymiad i Gymru, i'r Gymraeg ac yn arbennig i gymunedau Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith dros y blynyddoedd wedi gwerthfawrogi ei gefnogaeth i'r achos a'i gyfeillgarwch."
1 Tachwedd 2007
|
|
|

19 Hydref 2007
|
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r Cyngor o fod yn fandaliaid sydd ddim ond am wneud elw wrth ymateb i'r newyddion ysgytwol fod Cyngor Sir Gar am chwalu Ysgol Mynyddcerrig. Dim ond mis sydd ers i'r ysgol gau a nawr mae'r Cyngor wedi gwneud cais am ganiatad cynllunio i ddatblygu 6 ty ar y safle.
15 Hydref 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi atgoffa Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr y byddant yn trafod y datblygiad tai arfaethedig yn Waungilwen, Drefach Felindre gyda thudalen wag. Apeliodd y Gymdeithas at y cyfarfod pwyllgor a gynhelir ddydd Iau Medi 27ain am 10.30 yn swyddfeydd y Cyngor, i sicrhau fod y broses gynllunio yn cynnal cymunedau hyfyw yn hytrach na chael ei defnyddio fel trwydded i argraffu arian ar gyfer datblygwyr.
21 Medi 2007
| Mwy...
|
|
Nos Fercher, 5ed o Fedi 6.30pm,
Gwesty'r Queens (Lan Stâr),
Stryd y Frenhines Caerfyrddin
5 Medi 2007
|
|
|
Mae arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cymryd y cam eithriadol o feddiannu adeilad ysgol Mynyddcerrig a gaewyd ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn oriau man y bore heddiw torrodd yr aelodau i mewn i adeilad neuadd/ffreutur yr ysgol lle cynhaliwyd yr ymgynghori a newidiwyd y clo.
4 Medi 2007
| Mwy...
|
|
Bydd Swyddogion Cynllunio Cyngor Sir Gar heddiw'n argymell bod y Pwyllgor Datblygu (sy'n cyfarfod am 10.30am Iau 30 Awst yn Neuadd y Sir) yn cymeradwyo cais cynllunio i godi 52 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd, a thrwy hynny'n dyblu maint y pentref.
30 Awst 2007
| Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei bod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf newydd Cymru sy'n digwydd yng Nghaerfyrddin y penwythnos hwn. Cynhelir Gwyl Macs ar faes y Sioe Nant y Ci ger Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 1/9 a Dydd Sul 2/9.
28 Awst 2007
| Mwy...
|
|
Bu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.
23 Gorffennaf 2007
| Mwy...
|
|
Ar fore Llun 23ain Gorffennaf fe fydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod argymhelliad i fabwysiadu fformiwla newydd i gael gwared o bob ysgol bentrefol Gymraeg heblaw am "nifer fechan o leoliadau addysg" sy'n anghysbell iawn. Bydd y fformiwla newydd yn dileu'r elfennau atodol ar gyfer ysgolion bach a ffederasiynau ac yn seilio'r cyfan ar nifer y disgyblion. O bganlyniad, bydd pob ysgol bentre fach yn colli cyllid sylweddol.
13 Gorffennaf 2007
| Mwy...
|
|
Anfonwyd Gwenno Teifi i garchar Eastwood Park, swydd Gaerloyw am 5 diwrnod am wrthod talu dirwy o Ł120 am beintio slgan yn galw am Ddeddf Iaith ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn ôl ym mis Hydref 2006. Fe'i dedfrydwyd i garchar gan Lys Ynadon Caerfyrddin.
Dyma'r ail dro mewn blwyddyn i Gwenno, sy'n fyfyriwr 20 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dod yn wreiddiol o Lanfihangel ar Arth, Sir Gaerfyrddin gael ei charcharu yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
9 Gorffennaf 2007
| Mwy...
|
|
Mae aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith a garcharwyd llynedd oherwydd ei rhan yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd yn wynebu cael ei danfon nôl i garchar gan Ynadon Caerfyrddin fore Llun nesaf.
Carcharwyd Gwenno Teifi, myfyriwr 20 oed o Lanfihangel-Ar-Arth, yn Chwefror 2006 gan Ynadon Caerfyrddin, a bydd yn wynebu’r un Llys Ynadon am 9.45am Llun 9ed Gorffennaf. Cafodd ei arestio ym mis Hydref 2006 wedi iddi baentio’r geiriau 'DEDDF IAITH NEWYDD' ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn dilyn protest gan Gymdeithas yr Iaith. Rhoddwyd cosb gosod o Ł80 iddi - swm sydd wedi codi bellach i Ł120 yn cynnwys costau. Mae’n ymddangos gerbron Ynadon Caerfyrddin am iddi wrthod talu’r gosb.
6 Gorffennaf 2007
| Mwy...
|
|
Bydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.
28 Mehefin 2007
| Mwy...
|
|
Cyfarfu nifer o fudiadau Cymreig ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau diwethaf i drafod sut i bwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Iaith gryfach. Mynychwyd y cyfarfod, oedd wedi ei drefnu ar y cyd gan Urdd Gobaith Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg gan UCAC, UMCA, UMCB, Mudiad Yagolion Meithrin, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Cymuned.
4 Mehefin 2007
| Mwy...
|
|

30 Mai 2007
|
|
|
DYFODOL EIN HYSGOLION PENTREFOL CYMRAEG

Dewch o bob sir i gefnogi Protest am 12.00 Llun 28/05 wrth uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
28 Mai 2007
|
|