tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Rhanbarthau
Gwynedd-Môn
Clwyd
Ceredigion
Powys
Caerfyrddin-Penfro
Morgannwg-Gwent
 

Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro

Sir Gaerfyrddin

Yma yn Sir Gâr rydym yn byw yng nghysgod bwgan mawr sy'n bygwth dyfodol ein cymunedau Cymraeg a'n ffordd o fyw - ein Cyngor Sir. Yn groes i strategaeth honedig y Cyngor o "gynnal a hyrwyddo cymunedau Cymraeg", maent wrthi'n systematig yn lladd cymunedau Cymraeg y Sir.

  1. Maent wedi cau 5 o ysgolion pentrefol Cymraeg y Sir yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf ac mae mwy ar y ffordd. Yn eu cyhoeddiad diweddaraf sef y "Cynllun Trefniadaeth Ysgolion" maent yn bygwth ysgolion cynradd gyda llai na 90 o blant, sef bron pob ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, gan ddweud mai ystyriaethau ariannol sydd bwysicaf. Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ein gwrth-bolisi sef dogfen "Llwyddiant Ysgolion Pentref". Byddwn yn pwyso ar y Cyngor newydd (yn dilyn etholiadau 10/6/04) i daflu'r Cynllun Trefniadaeth ysgolion.
  2. Mae Cynllun Datblygu Unedol y Cyngor yn rhoi caniatad cynllunio i dros 12,000 o dai yn y Sir, fydd yn hwyluso mewnlifiad enfawr i'r Sir. Dyw'r ffigurau yma ddim wedi'u seilio ar unrhyw ymchwil i'r angen lleol am dai. Eto, mae gennym Alwad ar ddarpar Gynghorwyr i wrthwynebu'r Cynllun hwn a phan ffurfir y Cyngor newydd byddwn yn pwyso arnynt i daflu'r Cynllun a dechrau eto. Gobeithiwn gael cefnogaeth mudiadau etc, eraill i'r alwad yma.
  3. Yn ogystal â herio'r Cyngor, byddwn yn pwyso ar siopau yn nhref Caerfyrddin i Gymreigio gan ddangos yr angen am Ddeddf iaith. Bydd yn rhaid i ni ymgyrchu yn erbyn Radio Sir Gâr hefyd sy'n argoeli i fod yn wasanaeth cwbl Seisnig (maent yn dechrau darlledu ym mis Mehefin).

Mae gennym griwiau o bobl yn gweithio yn y meysydd uchod - OND MAE MAWR ANGEN CYMORTH. Os alli di helpu trwy ffonio, llythyru, gosod posteri, gweithredu yna cysyllta, neu os wyt ti jyst moyn gwybod mwy.... cysyllta!

Sioned Elin

Sir Benfro

Gwybodaeth ar ymgyrchoedd y Gymdeithas yn Sir Benfro yn dod yn fuan.

Os gelli di helpu cysyllta gyda Sioned Elin

Deunydd Ymgyrchu


Digwyddiadau'r Rhanbarth
Rhagor...

Newyddion o'r Rhanbarth
Dim un ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli
11 Awst, 2008
Her i Swyddogion Addysg Sir Gâr
10 Gorffennaf, 2008
Boots Ceredigion a Sir Gâr 93-95% Saesneg yn unig!
18 Mehefin, 2008
Galw ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd yn Sir Gaerfyrddin
9 Mehefin, 2008
Sut anghofiodd “Mr Anghofus” son wrth etholwyr Sir Gar am fwriad i gau 17 ysgol?
5 Mehefin, 2008
Mwy o newyddion...

Dogfennau Perthnasol
Siarter Sir Gâr
Hydref 2004
Rhagor...

Erthyglau Perthnasol
Rhagor...

Archif y Rhanbarth
Pob cofnod o'r rhanbarth hwn


nôl i'r brig