tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Croeso i wefan Cymdeithas yr Iaith!

Gall unrhyw un sy'n ymuno â Chymdeithas yr Iaith fwrw iddi yn syth.

Fe gewch wybod am eich cysylltwr lleol trwy ymweld â thudalen rhanbarthau, ac os mae Cell yn yr ardal, bydd wedi nodi ar y dudalen celloedd. Os nad ydych yn siwr cysylltwch â'r Brif Swyddfa trwy ymweld a’r dudalen cysylltu. Holwch y cysylltwr am y gwaith lleol a dyddiad y cyfarfod nesaf. Mae trefnydd i bob ranbarth ar y Senedd sy'n cyfarfod bob mis.

Mae gan y Gymdeithas grwp arbennig i ofalu am agweddau gwahanol o'r gwaith (Grwp Cymunedau Rhydd, Grwp Addysg, Grwp Deddf Iaith Newydd, Grwp Gwreiddiwch yn y Gymuned, Grwp Adloniant, Grwp Codi Arian ayyb). Cewch ddod yn aelod o'r grwpiau hyn yn syth, dim ond i chi nodi hynny ar y ffurflen ymaelodi.

Fe gewch yr holl newyddion diweddaraf trwy ymweld â’r dudalen newyddion. Mae llawer o straeon difyr iawn ar gael hefyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas – Y Tafod. Ewch at y dudalen digwyddiadau i weld beth sydd ar y gweill. Fe gewch ddarllen mwy am ymgyrchoedd y Gymdeithas, yn ogystal a’r maniffesto, trwy fynd i’r adran dogfennau.

Y Cyfarfod Cyffredinol a gynhelir bob mis Mawrth yw digwyddiad blynyddol pwysicaf y Gymdeithas. Mae croeso i bob aelod ddod i hwn i bleidleisio ar gynlluniau'r Gymdeithas am y flwyddyn ganlynol. Cewch anfon cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol ar y camau yr hoffech weld y Gymdeithas yn eu troedio, a chynnig enwebiadau ar gyfer swyddi arweinwyr grwpiau a swyddogion eraill y Senedd.

Digwyddiadau eraill holl bwysig yn flynyddol i’r Gymdeithas yw Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ceir yr holl wybodaeth ar y dudalen Eisteddfodau.

Cofiwch fod y Gymdeithas yn fudiad gwirfoddol, ac mae pob cyfraniad ariannol yn help mawr iawn. Mae gyda ni yn ogystal nifer o nwyddau ar gael i’w prynu, gellir cael yr holl fanylion ar ein tudalen nwyddau.

DEWCH GYDA NI!

Os ydych yn aelod o’r Wasg, ac eisiau mwy o wybodaeth am stori neu ymgyrch benodol, pwyswch yma.

Os ydych yn Wleidydd ac am wybod mwy am y Gymdeithas, pwyswch yma.

Newyddion
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008
2 Awst, 2008
Cyflwyno deiseb â 1,000 o enwau i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg
1 Gorffennaf, 2008
Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd
1 Gorffennaf, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Clwyd, YR WYDDGRUG
24 Mehefin, 2008
GIG: Derwyddon Dr Gonzo, Amheus, Meibion Ffred, 3 Eog, Caerfyrddin
11 Gorffennaf, 2008
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008
2 Awst, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig