tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

“We never have played Welsh music and we never will!”

radio_carmarthenshire.JPG Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm. Roedd rhaid i gyflwynwyr gloi eu hunain mewn stiwdio sbar i barhau a'r darllediad wedi'r saib.

Cafodd 11 o'r protestwyr eu harestio. Heledd ap Gwynfor, Heledd Gwyndaf, Gwenno Teifi, Steffan Cravos, Aled Vaughan, Llinos Dafydd, Rhiannon Lewis, Betsan Jones, Menna Machreth, Angarad Blythe a Catrin Howells.

Meddianwyd pencadlys Radio Carmarthenshire yn Arberth Sir Benfro i wrando ar swn y DJ Cymraeg MCSleifar (Steffan Cravos - sy'n wreiddol o Gaerfyrddin ond yn awr yn DJ Radio ym Mhontypridd i GTFM), ar waethaf ymffrost y Prif Weithredwr , Keri Jones, nad oedd Radio Sir Carmarthenshire “erioed wedi chwarae gerddoriaeth Gymraeg ac na fyddai byth yn gwneud hynny.”

Mae’r weithred hon yn gychwyn ymgyrch benderfynol gan Gymdeithas yr Iaith i bwyso ar OFFCOM i ddiddymu trwydded Radio Carmarthenshire gan nad yw’n orsaf leol nac yn cyflawni ei chyfrifoldeb at yr iaith na’r gymuned leol.

Yn ystod mis cyntaf darlledu’r orsaf newydd yr ydym wedi darganfod fod ei chynnyrch Gymraeg yn gyfyngedig i :

* Rhaglen nosweithiol honedig Gymraeg o 7pm i 10pm sy’n darlledu cerddoriaeth Saesneg yn unig trwy orchymyn y cwmni
* Hysbysebion cerddorol dwyieithog ar gyfer yr orsaf ei hun
* Ugain eiliad o Gymraeg ar ddiwedd bwletinau newyddion
* Mentr nawddoglyd “Welsh word of the day” mewn sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

Dyw hon ddim chwaith yn orsaf leol yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ceisio cuddio’r ffaith trwy ddefnyddio cyfeiriad post yn Llanelli, mae’r holl ddarlledu mewn gwirionedd o stiwdio Radio Pembrokeshire yn Arberth. Does dim unrhyw ddarlledu Cymraeg yn fyw ac fell nid oes unrhyw bosibiliad i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan mewn rhaglenni.

O gael ei herio gyda’r ffeithiau hyn, dywedodd Keri Jones (Pri Swyddog Gweithredol Radio Carmarthenshire) wrth Aled Vaughan o Gymdeithas yr Iaith

* “Efallai fod 50% o bobl Sir Gar yn siarad Cymraeg ond mae 100% yn siarad Saesneg”
* “Dyn ni ddim yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg a byddwn ni fyth yn gwneud"
* “Wnawn ni ddim cefnogi bandiau Cymraeg lleol onibai eu bod nhw’n cael cytundeb gan gwmni fel Sony ac yn cyrraedd y siartiau Prydeinig”.

Gwnaeth e hefyd fygwth cwtogi awr ar y rhaglen nosweithiol “Gymraeg” os bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i gwyno. Ei ymateb anhygoel i Lowri Gwenllian trwy e-bost oedd yn Saesneg: “Ymddengys nad yw Radio Carmarthenshire wrth eich bodd yn bersonol. Allwn ni ddim plesio pawb, cerwch yn ôl at Radio Cymru.”

Gall e fod yn sicr y byddwn ni’n dychwelyd at Arberth i barhau gyda’r ymgyrch hon.



Western Telegraph 29/07/04
Teifi Seid 28/07/04
Western Mail 26/07/04
Western Mail 27/07/04
Western Mail 30/07/04
Western Mail 11/08/04
Stori BBC Cymru'r Byd
Erthygl ar Eurolang
Llythr gan John Eckersley yn y Carmarthen Journal
Llythr gan Mabon ap Gwynfor yn y Carmarthen Journal
Llythr gan Llinos Dafydd yn y Carmarthen Journal
Llythr gan Iwan Evans yn y Carmarthen Journal
Llythr gan Gwyn Jones yn y Western Mail

Pwyswch yma i weld y lluniau a Toriadau papurau newydd o'r digwyddiad

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
"Tinsel ar y Goeden... LCO iaith ar y ffordd?" Fideo Nadolig y Gymdeithas
18 Rhagfyr, 2008
Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth
10 Rhagfyr, 2008
Ymateb i Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig
27 Tachwedd, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Parti 'Dolig Carafan: Mattoidz, Adrift, Lodofois: 3 Eog, Caerfyrddin
29 Rhagfyr, 2008
Rali Calan Hen, Caryl Parry Jones, Pibydd Cymreig, Y Fari Lwyd + mwy! CAERDYDD
10 Ionawr, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig