|
|
|
Cymunedau Rhydd: Y Pecyn Lobio
Ar hyn o bryd mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd rhai camau penodol er lles ein cymunedau a'r iaith Gymraeg. Caiff y camau hyn eu amlinellu yn y pecyn lobio isod.
Fel rhan o'r ymgyrch mae angen cyflwyno'r galwadau i bob un o Aelodau'r Cynulliad. Fe wnaed hyn eisioes trwy lythyru a thrwy gynnal cyfarfod lobio llwyddiannus yn y Cynulliad ei hun. Eto i gyd, byddai'r neges yn cael ei hatgyfnerthu pe bai modd i aelodau a chefnogwyr ymweld a'u Helodau Cynulliad lleol, gan ofyn iddynt gefnogi galwadau tai Cymdeithas yr Iaith.
Os wyt yn awyddus i ymweld a dy Aelod Cynulliad lleol cysyllta a'r brif swyddfa yn Aberystwyth er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Yn y cyfamser gelli ddarllen y Pecyn Lobio trwy bwyso isod:
Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd
.
|
|