|
|
|
Dy Ardal Di
Mae sicrhau trefniadaeth leol effeithiol yn ran holl bwysig o waith
Cymdeithas yr Iaith. O wneud hyn, gellir ennill sylw i alwadau ac
ymgyrchoedd y mudiad mewn nifer o ardaloedd gwahanol.
Rhanbarthau
Y prif ran o drefniadaeth leol y Gymdeithas yw'r rhanbarth. Mae gan y mudiad
6 rhanbarth sy'n ymestyn ar draws Cymru gyfan:
Mae'r rhanbarthau hyn yn cwrdd o leiaf unwaith y mis, ac yn trefnu
ymgyrchoedd yn eu hardal hwy. Pwysa ar dy ranbarth di er mwyn cael gwybod
pryd fydd y cyfarfod nesaf ac er mwyn gweld beth sydd ar y gweill ar hyn o
bryd.
Celloedd
O fewn pob rhanbarth, fe geir nifer o gelloedd lleol hefyd. Y 'gell' yw'r
elfen mwyaf lleol o drefniadaeth y Gymdeithas. Gellir sefydlu Celloedd mewn
Ysgol, Coleg, Pentref, Tref, Dinas neu mewn man gwaith. Mae manylion rhai
celloedd lleol wedi eu nodi ar y wefan hon. Pwysa ar dy Ranbarth i weld os
oes cell yn dy ardal. Os nad oes, beth am sefydlu un? Gall unrhyw aelod
sefydlu cell yn enw'r Gymdeithas, gall Cell fod yn unrhywbeth o ddau ffrind
yn cwrdd bob nawr ac yn y man i ddegau o bobl yn cwrdd yn gyson. Cysyllta
gyda dy rhanbarth os wyt am gychwyn Cell, a gall y Rhanbarth wedyn dy roi
di mewn cyswllt ag aelodau eraill yn dy ysgol, coleg, pentref, tref neu man
gwaith.
|
 |
|