Gall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig. Mae'r Gymdeithas yn benodol yn croesawu y sylwadau y dylai Awdurdodau Lleol gymeryd y broses o ymgynghori gyda chymunedau lleol o ddifrif ac y dylai effaith unrhyw ad-drefnu ar yr iaith Gymraeg fod yn brif ffactor wrth gymeryd penderfyniad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Heddiw fe ddychwelodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith i Orsaf Heddlu Aberystwyth i ateb eu mechnïaeth. Arestiwyd y chwe aelod yn y Rali Genedlaethol bythefnos yn ôl fel rhan o'r brotest 'Rhybudd Olaf' oedd wedi ei drefnu i ddwyn sylw'r Llywodraeth i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd
Ddydd Iau (6 Tachwedd, 2008) mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwneud cyflwyniad ger bron pwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd a 977 o enwau arno, i Lywodraeth Cymru ddechrau'r haf oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn gofidio fod y Llywodraeth yn llusgo traed ar fater sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un. Roedd hi hefyd yn ofid gan Gymdeithas yr Iaith y byddai'r “pyst yn cael eu symud” ac y byddai dim byd mwy na “bwrdd” arall yn cael ei sefydlu.
Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth. Yna wrth i hanner cant o aelodau ddangos eu cefnogaeth drwy arwyddo eu henwau ar y wal fe arestiwyd pedwar person arall sef Bethan Williams arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas, Siriol Teifi, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr iaith Gymraeg a dau fachgen yn eu harddegau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"
Ar ôl i Gyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddod i ben yn Aberystwyth brynhawn dydd Sadwrn Hydref 25 bydd pymtheg o aelodau'r Gymdeithas yn paratoi i adael ymhen deuddydd i ymweld â Gwlad y Basg. Dyma'r tro cyntaf ers pymtheg mlynedd i ddirprwyaeth o aelodau'r Gymdeithas ymweld â'r wlad. Hon hefyd yw'r ddirprwyaeth fwyaf niferus erioed i fynd allan a'r daith yn enw'r Gymdeithas.
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth bore dydd Sadwrn Hydref 25 bydd Hywel Griffiths sydd wedi bod yn gadeirydd y Gymdeithas ers Mis Mawrth 2007 yn rhoi'r gorau i'w swydd, ac fe etholir Menna Machreth, sy'n sefyll yn ddiwrthwynebiad i gymryd ei le.
Mae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.
Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
Bydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol. Digwyddodd hyn ar ôl i'r ddau gael eu harestio (gyda dau aelod arall nad ydynt yn wynebu achos llys) am beintio sloganau ar waliau siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon. Roedd hyn fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd fyddai yn meddu ar bwerau yn ymestyn i'r sector breifat.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".
Mewn Cynhadledd i’r Wasg y bore’ma, mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at y posibiliadau cyffrous newydd ar gyfer ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi annog cyrff llywodraethol i ymateb i bapur ymgynghorol newydd Llywodraeth y Cynulliad (Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion) sy’n dangos sut y gall ysgolion pentre cyfagos gydweithio ar batrwm newydd, tra’n cadw eu hannibyniaeth, i greu unedau addysgol cryf fel alternatif i gau ysgolion. Gellir creu ffederasiwn o Ysgol Uwchradd a llawer o’r ysgolion cynradd pentrefol sy’n ei bwydo.
Yn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.
Neithiwr (Awst 27 ain 2008) aeth aelodau o Gymdeithas yr Iaith, rhanbarth Clwyd, allan i weithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Woolworths a WHSmiths yng Nghonwy a Llandudno, fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i wedd newid y sector breifat. Codwyd sticeri ar ganghennau'r ddau gwmni yn gofyn 'Ble mae'r Gymraeg'
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Awst 14) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.
Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.
Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg. Cofiwch brynu y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau a'u darllen.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.
Bydd Cymdeithas yr iaith yn gweithredu ar faes yr Eisteddfod er mwyn agor i'r bobl yr ymgyrch a'r ddadl am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cyhoeddi sefydlu Gweithgor - i'w gadeirio gan Robin Williams - er mwyn astudio gwahanol fodelau ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ac felly wireddu un o addewidion sylfaenol dogfen "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad.
Am 1 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Awst 4) bydd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth, yn un o nifer ddaw i lansiad llyfr ar statws gyfreithiol iaith Gymraeg ym Mhabell y Gymdeithas (unedau 906 -908). Mae'r llyfr 'Hawl i'r Gymraeg' gan Gwion Lewis, sy'n un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth, yn edrych ar hawliau ieithyddol y Cymry Cymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ei lyfr mae Gwion Lewis yn dadlau na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod ein hawl ddiymwad i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ei obaith yw y bydd y llyfr nerthu ac yn cryfnau yr alwad am Fesur iaith newydd.
Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fydd yn siarad yn y cyfarfod gyda gyda Cynog Dafis: "Dyma lyfr anhepgor y bydd yn rhaid i'r Gweinidog Treftadaeth ei ddarllen ar ei union a hithau yn amser tyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith newydd."
Y lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
"Mae'n dda gennym weld cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynnig darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai, er nad oes llawer o fanylion wedi eu cyhoeddi ganddynt ar sut maent yn bwriadu diogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghymru, sef ail elfen y cydweithio."
Mi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000 y flwyddyn a fyddai’n yn mynd tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges yn llongyfarch Alun Ffred Jones ar gael ei benodi yn Weinidog Treftadaeth. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,
"Dymunwn yn dda i Alun Ffred Jones yn ei swydd newydd. Ein teimlad ar hyn o bryd yw fod Llywodraeth y Cynulliad ar brawf pan ystyrir ei hymrwymiad i'r Gymraeg. Bu'r methiant i sefydlu papur dyddiol yn siom fawr i ni. Ond yn yr Hydref disgwyliwn weld cyhoeddi y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu datganiad Jane Hutt heddiw fod y Llywodraeth yn dal i anelu at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn hytrach na bodloni ar ddiwygiadau ar y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio fod angen symud lawer ynghynt ac na ddylid cyfyngu’r trafod i’r sefydliadau addysgol.
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9. Derbyniodd dwy ferch ysgol oedd gyda hwy ar y noson rybudd gan yr heddlu. Ar y noson fe atafaelwyd car a ffonau symudol oedd yn perthyn i'r diffinyddion gan yr heddlu.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers. Derbyniodd rhieni rybudd o 3 wythnos y gall eu safleoedd ysgol gau ar ddiwedd y tymor.
Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill. Croesawn ei datganiaid yn siambr y Cyngor heddiw fod y Cyngor am symud ymlaen trwy gydsynio a thrwy gydweithio gyda Chynghrair Ysgolion Gwynedd a Chymdeithas yr Iaith. Dilewyd y cymal o'r cynnig yn gofyn i'r gweithgor newydd'llunio rhestr o ysgolion i'w cau.'
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn mis i’r Etholiad.
Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.
Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:
1. Statws a chyfansoddiad annibynnol
2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru
3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf
4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestri gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.
Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn ran ohonynt.
Fe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre. Yn ol neges y Gymdeithas at bob aelod, ymddengys fod swyddogion yn edrych ar ganlyniadau’r etholiad – a’r newid yn rheolaeth y Cyngor – fel anghyfleustra anffodus a’u bod yn benderfynol o frysio ymlaen i gael gwared ag ysgolion pentre.
Am 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.
Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.
Mewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.
Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol.
Ar derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”
"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: