tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Bygythiad Cyllideb Gordon Brown i Gymunedau Cymraeg

deddf_eiddo.gif Heddiw (Dydd Mercher Mawrth 3ydd), bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd gyda Hywel Williams A.S. i gyflwyno llythyr i Gordon Brown a swyddogion y Trysorlys yn Llundain, er mwyn tynnu sylw at y niwed y gall newidiadau gynigir yn y Gyllideb y mis nesaf ei wneud i'r farchnad dai yng Nghymru.

Bydd Huw Lewis ( Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg) a Dafydd Morgan Lewis (Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas) yn trosglwyddo llythyr i'w gyflwyno i Gordon Brown yn y Trysorlys am 11 o'r gloch.

Dywedodd Huw Lewis:

"Deallwn mai eich bwriad yw cynnig toriadau treth sylweddol i'r sawl sy'n buddsoddi mewn tai ac eiddo fel cynllun pensiwn. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r sawl sydd ’'r modd i brynu ail neu drydydd cartref gael hyd at 40% o ostyngiad ar y pris y byddai'n rhaid i unigolyn sy'n prynu ty^ am y tro cyntaf ei dalu".

Ychwanegodd Huw Lewis:

"Gyda phrisiau tai yng Nghymru yn parhau i gynyddu ar raddfa arswydus, ac o gofio y byddai'r prinder cyfalaf yn y cymunedau gwledig yn eu rhwystro rhag manteisio ar y fath gynllun, ofnwn y byddai'r newidiadau hyn yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhryniant tai haf ac yn rhwystro prynwyr tai am y tro cyntaf rhag cystadlu yn y farchnad dai. Yn ychwanegol at hynny, yr ydym yn rhagweld y byddant yn arwain at gynnydd pellach ym mhrisiau tai ac yn tanseilio ymdrechion y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu tai hyfforddiadwy i bobl Cymru. O ystyried y sgil-effeithiau tebygol hyn, credwn y byddai cynllun y Canghellor yn ergyd drom arall i'r Gymraeg yn y cymunedau lle siaredir yr iaith o ddydd i ddydd"

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
"Tinsel ar y Goeden... LCO iaith ar y ffordd?" Fideo Nadolig y Gymdeithas
18 Rhagfyr, 2008
Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth
10 Rhagfyr, 2008
Ymateb i Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig
27 Tachwedd, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Parti 'Dolig Carafan: Mattoidz, Adrift, Lodofois: 3 Eog, Caerfyrddin
29 Rhagfyr, 2008
Rali Calan Hen, Caryl Parry Jones, Pibydd Cymreig, Y Fari Lwyd + mwy! CAERDYDD
10 Ionawr, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig